DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG
A GYFLWYNWYD AR 21/10/15
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
OPIN-2015-0359 Rhyddid i newid crefydd neu gred
Cyflwynwyd gan:
Darren Millar
Tanysgrifwyr:
Mohammad Asghar (21/10/15)
Paul Davies (21/10/15)
Suzy Davies (21/10/15)
Russell George (21/10/15)
Mike Hedges (22/10/15)
Bethan Jenkins (02/11/15)
Llyr Gruffydd (4/11/15)
Jeff Cuthbert (6/11/15)
Peter Black (6/11/15)
Rhyddid i newid crefydd neu gred
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod hawl yr unigolyn i'r rhyddid i feddwl, rhyddid cydwybod a rhyddid crefydd yn cynnwys y rhyddid i newid crefydd neu gred;
Yn credu bod hyn yn cynnwys yr hawl i beidio â chael cred grefyddol;
Yn nodi'r berthynas ardderchog sy'n bodoli rhwng arweinwyr ffydd Cymru, a gynorthwyir gan gyfranogiad mewn cyrff megis y Fforwm Cymunedau Ffydd, y Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd a Chyngor Rhyng-ffydd Cymru; ac
Yn cydnabod ac yn cefnogi'r gwaith cydweithredol a chynhwysol sy'n cael ei wneud ymhlith grwpiau ffydd i alluogi deialog iach ar y mater pwysig o newid crefydd.