DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 19/05/2008
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2008- 0037 - Hawliau Undebau Llafur yn Zimbabwe
Codwyd gan:
Lesley Griffiths
Tanysgrifwyr:
Val Lloyd 21/05/2008
Gareth Jones 21/05/2008
Jenny Randeson 21/05/2008
Trish Law 21/05/2008
Irene James 21/05/2008
Mike German 22/05/2008
Leanne Wood 23/05/2008
Christine Chapman 23/05/2008
Ann Jones 23/05/2008
Joyce Watson 23/05/2008
Jeff Cuthbert 04/06/2008
Nerys Evans 27/06/2008
Mick Bates 01/07/2008
Hawliau Undebau Llafur yn Zimbabwe
Mae’r Cynulliad hwn yn condemnio methiant Llywodraeth Zimbabwe i lynu wrth ei rhwymedigaeth ryngwladol dan Ddatganiad Egwyddorion a Hawliau Sylfaenol yn y Gwaith y Sefydliad Llafur Rhyngwladol, i amddiffyn hawliau’r undebwyr llafur i gynnal gweithgareddau trefnu; yn mynegi ei bryder dwfn dros ddiogelwch tri arweinydd undeb llafur, sydd ar hyn o bryd yn cael eu dal mewn carchardai yn Zimbabwe; yn galw ar undebwyr llafur yng Nghymru i gyflwyno sylwadau i Lysgenhadaeth Zimbabwe yn Llundain; ac yn annog Gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad i gyflwyno sylwadau i’r Swyddfa Dramor, i atgoffa Llywodraeth Zimbabwe o’i rhwymedigaethau dan Gonfensiwn 98 a Chonfensiwn 87 y Sefydliad Llafur Rhyngwladol i barchu hawliau gweithwyr.