DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 25/06/2008
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2008- 0055 - Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar: 'Change Your World' - Llais i Bobl Ifanc Fyddar yng Nghymru
Codwyd gan:
Ann Jones
Tanysgrifwyr:
Kirsty Williams 30/06/2008
Joyce Watson 30/06/2008
Jenny Randerson 30/06/2008
Mark Isherwood 30/06/2008
Trish Law 01/07/2008
Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar: 'Change Your World' - Llais i Bobl Ifanc Fyddar yng Nghymru
Bod y Cynulliad hwn:
> Yn cymeradwyo'r holl blant a phobl ifanc byddar yng Nghymru a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad mwyaf erioed gyda phlant byddar a gynhaliwyd gan Gymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar, dan y teitl 'Change Your World'.
>Yn cydnabod bod canlyniadau'r ymgynghoriad yn rhoi cipolwg unigryw i farn pobl ifanc fyddar ar faterion sy'n effeithio arnynt;
>Yn cefnogi Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar wrth iddynt ddatblygu eu 'Cynlluniau Mawr' ar gyfer plant a phobl ifanc byddar yng Nghymru;
>Yn diolch i bawb a fynychodd lansiad Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar yn y Cynulliad ddydd Mawrth 17 Mehefin 2008, ac yn ymrwymo i wrando ar y canlyniadau.