DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 23/09/2008
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2008- 0066 - Mynediad at Driniaethau sy’n Achub Bywydau
Codwyd gan:
Jonathan Morgan, Nick Ramsay and William Graham
Tanysgrifwyr:
Trish Law 24/09/2008
Chris Franks 24/09/2008
Darren Millar 24/09/2008
Brynle Williams 25/09/2008
Nick Bourne 25/09/2008
Mark Isherwood 25/09/2008
Angela Burns 26/09/2008
Andrew RT Davies 02/10/2008
David Melding 10/10/2008
Mynediad at Driniaethau sy’n Achub Bywydau
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn pryderu bod yn rhaid i gleifion sydd â salwch sy’n bygwth eu bywyd neu’n diweddu eu bywyd frwydro am gyffuriau sy’n gwella eu bywydau’n sylweddol.
Mae’r Cynulliad yn nodi ymgyrch ddewr Chris Lewis y gwrthodwyd y cyffur Sutent iddo i ymestyn ei fywyd ar ôl iddo gael diagnosis bod ganddo ganser yr arennau terfynol.
Mae’r Cynulliad yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
• Ail-archwilio cyfarwyddwyd a wnaethpwyd gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan ynghylch y cyffur Sutent;
• Sicrhau na chaiff meddygon, sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar y gofal mwyaf priodol ar gyfer eu cleifion, eu llyffetheirio rhag darparu’r gofal gorau i gleifion.