DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 03/03/2009
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2009-0026 - Tal Statudol Dileu Swyddi
Codwyd gan:
Lesley Griffiths
Tanysgrifwyr:
Rosemary Butler 05/03/2009
Joyce Watson 05/03/2009
Sandy Mewies 05/03/2009
Val Lloyd 06/03/2009
Irene James 17/03/2009
Trish Law 17/03/2009
Christine Chapman 17/03/2009
Leanne Wood 27/04/2009
Tal Statudol Dileu Swyddi
Mae’r Cynulliad
hwn yn
cydnabod bod y dirywiad economaidd byd-eang yn achosi cynnydd mewn diweithdra yng Nghymru;
yn ymwybodol o’r angen i gefnogi gweithwyr Cymru y mae eu swyddi wedi cael eu dileu o’r herwydd;
yn credu bod y cyswllt presennol rhwng Tâl Statudol Dileu Swyddi a’r Mynegai Prisiau Manwerthu wedi gweld tâl Dileu Swyddi’n disgyn yn gyson mewn termau real; ac
yn cefnogi galwad unedau llafur Cymru ac eraill i adolygu’r mecanweithiau a ddefnyddir i gyfrifo Tâl Statudol Dileu Swyddi, a hynny ar fyrder.