DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 15/07/2010
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
R Signifies the Member has declared an interest
OPIN-2010-0044 - Newidiadau TAW
Codwyd gan:
Mark Isherwood
Tanysgrifwyr:
Christine Chapman 20/09/2010
Lindsay Whittle 24/11/2011
William Powell 24/11/2011
Angela Burns 24/11/2011
Mark Isherwood 24/11/2011
Newidiadau TAW
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi:
Mai er mwyn talu biliau'r gorffennol ar yr un pryd â chynllunio ar gyfer ein ffyniant yn y dyfodol y penderfynodd Llywodraeth Glymblaid y DU gynyddu TAW .
Na chodir TAW o hyd ar fwyd na dillad, esgidiau na llyfrau i fabanod a phlant.
Bod Llywodraeth y DU wedi gofyn i'r Swyddfa â Chyfrifoldeb dros y Gyllideb edrych ar sefydlogydd treth tanwydd a fyddai'n ceisio lleddfu prisiau tanwydd yn erbyn newidiadau cyflym mewn prisiau olew.
Bod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi cyfrifo y bydd effaith y cynnydd mewn TAW yn taro'r ddengradd gyfoethocaf galetaf, gyda'r effaith yn lleihau'n raddol ar gyfer pob dengradd wedi hynny.