DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 13/10/2010
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2010-0060 – Gwariant Teg i Bobl Anabl
Codwyd gan:
Ann Jones
Tanysgrifwyr:
Irene James 15/10/2010
Sandy Mewies 18/10/2010
Christine Chapman 19/10/2010
Rosemary Butler 20/10/2010
Joyce Watson 20/10/2010
Lorraine Barrett 20/10/2010
Val Lloyd 20/10/2010
Jeff Cuthbert 20/10/2010
Janet Ryder 20/10/2010
Karen Sinclair 21/10/2010
Lynne Neagle 21/10/2010
Andrew Davies 21/10/2010
Gareth Jones 22/10/2010
Mick Bates 02/11/2010
Gwariant Teg i Bobl Anabl
Mae’r Cynulliad hwn:
• Yn pryderu wrth i Lywodraeth y DU baratoi toriadau mewn gwariant cyhoeddus nad yw wedi asesu eu heffaith ar bobl anabl yn ddigonol.
• Yn nodi bod nifer o bobl anabl yn wynebu sialensiau wrth gael cyflogaeth a'u bod yn dibynnu ar gymorth ariannol gan y wladwriaeth i helpu gyda'r costau byw ychwanegol sy'n gysylltiedig â'u hanabledd.
• Yn credu y dylai cynigion yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant fod yn destun asesiad cadarn o'r effaith ar anabledd.
• Yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i weithio gyda Llywodraeth San Steffan i sicrhau na fydd y toriadau mewn gwariant yn gwaethygu tlodi nac yn eithrio pobl anabl.