OPIN-2010-0073 - Rhyddhau Aung San Suu Kyi

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 15/11/2010

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2010-0073 - Rhyddhau Aung San Suu Kyi

Codwyd gan:

Val Lloyd

Tanysgrifwyr:

Sandy Mewies 17/11/2010

Gwenda Thomas 17/11/2010

Jeff Cuthbert 17/11/2010

Nick Bourne 17/11/2010

David Melding 17/11/2010

Darren Millar 17/11/2010

Alun Davies 17/11/2010

Eleanor Burnham 26/11/2010

Rhyddhau Aung San Suu Kyi

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

•  Ynghyd â'r gymuned Fyrmanaidd yng Nghymru, yn croesawu rhyddhau Aung San Suu Kyi, yr ymgyrchydd dros hawliau dynol a democratiaeth;

•  Yn cydnabod bod Aung San Suu Kyi wedi ennill Gwobr Heddwch Nobel yn 1991 am ei "hymdrech di-drais dros ddemocratiaeth a hawliau dynol";

•  Yn gresynu bod Aung San Suu Kyi wedi bod mewn caethiwed ac yn garcharor yn ei chartref ei hun am bron i 15 mlynedd; ac

•  Yn annog llywodraeth filwrol Byrma i ryddhau pob carcharor gwleidyddol arall a chydnabod a hyrwyddo hawliau dynol a democratiaeth yn Byrma.