DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 21/06/2011
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2011-0009 - Gwrthwynebu’r Ymosodiad Annheg ar Weithwyr y Sector Cyhoeddus, Athrawon a Darlithwyr
Codwyd gan:
Mick Antoniw
Tanysgrifwyr:
Keith Davies 20/06/2011
Vaughan Gething 21/06/2011
Lynne Neagle 21/06/2011
Ken Skates 21/06/2011
Christine Chapman 21/06/2011
David Rees 21/06/2011
Mike Hedges 21/06/2011
Julie James 21/06/2011
Mick Antoniw 22/06/2011
Julie Morgan 22/06/2011
Sandy Mewies 22/06/2011
Mark Drakeford 22/06/2011
Joyce Watson 22/06/2011
Rebecca Evans 23/06/2011
Gwenda Thomas 27/06/2011
Jenny Rathbone 29/06/2011
Leanne Wood 19/09/2011
Gwrthwynebu’r Ymosodiad Annheg ar Weithwyr y Sector Cyhoeddus, Athrawon a Darlithwyr
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn cofnodi ar goedd ei gydnabyddiaeth o waith caled ac ymroddedig ein gweithwyr yn y sector cyhoeddus ac yn cydnabod y dicter a deimlir gan lawer am yr ymosodiad difrifol ar eu safonau byw yn deillio o’r mesurau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU a fydd yn arwain at delerau ac amodau cyflogaeth gwaeth a llai o ddarpariaeth pensiwn. Mae hyn yn deillio’n uniongyrchol o strategaeth economaidd Llywodraeth y DU.
Yn annog Llywodraeth y DU i gynnal ymgynghoriadau ystyrlon a diffuant gyda’r partïon perthnasol sy’n rhan o’r anghydfod er mwyn osgoi’r angen am weithredu diwydiannol.