DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD ON 27/09/2011
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2011-0024 - Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Fyddar
Codwyd gan:
Mark Isherwood
Tanysgrifwyr:
Mohammad Asghar 30/09/2011
Andrew RT Davies 06/10/2011
Darren Millar 06/10/2011
Paul Davies 06/10/2011
Peter Black 06/10/2011
Janet Finch-Saunders 06/10/2011
Nick Ramsay 07/10/2011
Aled Roberts12/11/2011
David Melding 12/11/2011
Lindsay Whittle 13/10/2011
Suzy Davies 13/10/2011
Byron Davies 15/10/2011
Eluned Parrott 18/10/2011
Mick Antoniw 18/10/2011
Kirsty Williams 18/10/2011
Aled Roberts 18/10/2011
William Powell 18/10/2011
Darren Millar 20/10/2011
Angela Burns 20/10/2011
Leanne Wood 01/11/2011
Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Fyddar
Mae’r Cynulliad hwn:
- Yn cydnabod bod angen i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ddarparu ar gyfer anghenion pobl fyddar;
- Yn cydnabod, er gwaethaf y lefelau uwch o broblemau iechyd meddwl ymysg pobl fyddar, Cymru yw’r unig wlad yn y DU nad yw’n darparu gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar gyfer pobl fyddar o bob oed;
- Yn croesawu’r cynigion a gyflwynwyd i’r Gweinidog Iechyd ym mis Hydref 2010 gan weithwyr proffesiynol ar draws y maes iechyd, gofal cymdeithasol a’r sector gwirfoddol gydag argymhellion ar lwybrau a chyflenwi gwasanaethau;
- Yn annog Llywodraeth Cymru i ymateb yn gadarnhaol ac yn gyflym i’r argymhellion a sicrhau gwasanaethau cyfartal i bobl anabl.