DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 11/10/2011
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2011-0030 - Newidiadau i System Fudd-daliadau’r DU
Codwyd gan
Mike Hedges
Tanysgrifwyr
Newidiadau i System Fudd-daliadau’r DU
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth y DU i ddiwygio’r system fudd-daliadau;
2. Yn nodi’r sgil-effeithiau – rhagor o bobl yn byw mewn tlodi, rhagor o deuluoedd yn ddibynnol ar roddion bwyd, cynnydd mewn digartrefedd.
3. Yn mynegi’r pryderon a fynegwyd gan bobl Cymru ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiwygio'r system fudd-daliadau sydd eisoes wedi arwain at lawer o bobl anabl yn colli eu budd-daliadau anabledd;
4. Yn galw ar Brif Weinidog Cymru i godi’r pryderon hyn gyda Phrif Weinidog y DU.