DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 11/02/2011
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2011-0091 - Ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar Ddiwygio’r Lwfans Byw i’r Anabl
Codwyd gan:
Helen Mary Jones, Sandy Mewies, Darren Millar and Veronica German
Tanysgrifwyr:
Val Lloyd 15/02/2011
Lorraine Barrett 18/02/2011
Paul Davies 18/02/2011
Jenny Randerson 21/02/2011
Nerys Evans 21/02/2011
Chris Franks 23/02/2011
Mark Isherwood 23/02/2011
Mick Bates 23/02/2011
Leanne Wood 24/02/2011
Jeff Cuthbert 11/03/2011
Lynne Neagle 16/03/2011
Gareth Jones 16/03/2011
Nick Bourne 17/03/2011
Peter Black 25/03/2011
Ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar Ddiwygio’r Lwfans Byw i’r Anabl
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn nodi ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar Ddiwygio’r Lwfans Byw i’r Anabl, a’r cynigion a gyhoeddwyd yn Adolygiad o Wariant y DU i leihau cyllideb y Lwfans Byw i’r Anabl £1bn y flwyddyn erbyn 2014/15.
Yn cydnabod bod mudiadau sy’n cynrychioli pobl sydd wedi colli’u golwg yng Nghymru wedi mynegi pryderon am y newidiadau i’r Lwfans Byw i’r Anabl a’r effaith y gallent eu cael ar y bobl fwyaf agored i niwed.
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i dynnu sylw Llywodraeth y DU am yr effaith y gallai’r cynigion hyn eu cael ar bobl ddall a rhannol ddall yng Nghymru, ac i sicrhau bod cynigion polisi yn cyflawni amcanion Llywodraeth San Steffan o ran tegwch ac amddiffyn y rheini sydd fwyaf agored i niwed.