OPIN-2012-0098 - Ymlaen at economi wyrddach

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 12/06/2012

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2012-0098 - Ymlaen at economi wyrddach

Codwyd gan:

Jenny Rathbone

Tanysgrifwyr:

Rebecca Evans 13/06/2012

Keith Davies 13/06/2012

Christine Chapman 13/06/2012

William Powell 13/06/2012

Aled Roberts 13/06/2012

Darren Millar 13/06/2012

Julie James 13/06/2012

Ken Skates 13/06/2012

Mike Hedges 14/06/2012

Sandy Mewies 15/06/2012

Gwyn Price 18/06/2012

Jocelyn Davies 18/06/2012

Llyr Huws Gruffydd 19/06/2012

Joyce Watson 21/06/2012

David Rees 21/06/2012

Lindsay Whittle 26/06/2012

Julie Morgan 27/06/2012

Ymlaen at economi wyrddach

Mae’r Cynulliad hwn:

Yn credu y dylai Cymru arwain y byd yn y broses o drawsnewid i fod yn economi werdd a theg, gan leihau allyriadau nwyon ty gwydr, amddiffyn bioamrywiaeth a chreu swyddi a chyfleoedd i leihau tlodi ac anghydraddoldeb yma a thramor.

Yn credu ymhellach fod uwchgynhadledd Rio+20 yn garreg filltir bwysig, ac y dylai'r DU gymryd rhan mewn modd adeiladol, gyda’r bwriad o uno llywodraethau ledled y byd y tu ôl i weledigaeth ar gyfer economi fyd-eang werdd a theg sydd o fudd i bawb.

Yn galw ar Lywodraeth y DU i arwain drwy esiampl gartref drwy gyflawni’r ymrwymiadau sydd yn Neddf Newid Hinsawdd y DU, sy’n torri tir newydd.