DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 24/09/2012
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2012-0115 - Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth o Atacsia
Codwyd gan:
Rebecca Evans
Tanysgrifwyr:
Mark Isherwood 24/09/2012
Mike Hedges 24/09/2012
David Rees 24/09/2012
William Powell 25/09/2012
Kirsty Williams 25/09/2012
Ken Skates 25/09/2012
Andrew RT Davies 25/09/2012
Dafydd Elis-Thomas 25/09/2012
Aled Roberts 25/09/2012
Julie James 25/09/2012
Peter Black 26/09/2012
Christine Chapman 01/10/2012
Joyce Watson 08/10/2012
Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth o Atacsia, 25 Medi 2012
Mae’r Cynulliad hwn:
i) yn nodi
bod atacsia yn cyfeirio at grwp o anhwylderau niwrolegol sy’n effeithio ar gydbwysedd, cydsymudiad a lleferydd;
bod llawer o wahanol ffurfiau ar atacsia a all effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd;
bod cael diagnosis cywir yn gallu bod yn anodd; a
bod rhai ffurfiau ar atacsia ymhlith y 6,000+ o glefydau prin sy’n bodoli
ii) yn cydnabod
pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o glefydau prin gan gynnwys atacsia ymhlith gweithwyr meddygol a gofal cymdeithasol proffesiynol, gweithwyr eraill rheng flaen a’r cyhoedd; a’r
gwaith da a wneir gan bobl yr effeithir arnynt gan atacsia a’u cefnogwyr wrth godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r cyflwr yng Nghymru.