OPIN-2013-0156 Taith Fasnach i San Francisco

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 20/02/2013

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2013-0156 Taith Fasnach i San Francisco

Codwyd gan:

Keith Davies

Tanysgrifwyr:

David Rees 21/02/2013

Mick Antoniw 21/02/2013

Mike Hedges 21/02/2013

Rebecca Evans 21/02/2013

Jenny Rathbone 22/02/2013

Ann Jones 22/02/2013

Ken Skates 22/02/2013

Joyce Watson 25/02/2013

Christine Chapman 25/02/2013

Sandy Mewies 25/02/2013

Lynne Neagle 26/02/2013

Taith Fasnach i San Francisco

Mae’r Cynulliad hwn yn cydnabod pwysigrwydd gwerthu Cymru dramor a hyrwyddo’r neges ein bod fel cenedl "ar agor i fusnes".

Mae hefyd:

•Yn croesawu’r cyhoeddiad a wnaed ar daith fasnach y Prif Weinidog i San Francisco ynghylch cytundeb rhwng Hydro Industries o Lanelli, â T&T Salvage a allai greu 100 o swyddi yng Nghymru.

•Yn croesawu sefydlu cynrychiolydd parhaol i Lywodraeth Cymru yn Swyddfa Is-gennad Prydain yn San Francisco.