DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 06/03/2013
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2013-0160 Bil Diogelu Gweithwyr
Codwyd gan:
Mike Hedges
Tanysgrifwyr:
Mick Antoniw 07/03/2013
Ann Jones 07/03/2013
Rebecca Evans 07/03/2013
Keith Davies 07/03/2013
David Rees 07/03/2013
Sandy Mewies 08/03/2013
Jenny Rathbone 08/03/2013
Peter Black 08/03/2013
Joyce Watson 11/03/2013
Lynne Neagle 20/03/2013
Bil Diogelu Gweithwyr
Mae’r Cynulliad hwn:
•Yn cydnabod bod nifer mawr o weithwyr siop yng Nghymru yn dioddef trais, bygythiadau a sarhad yn eu gwaith bob blwyddyn;
•Yn credu’n gryf na ddylai neb y mae ei swydd yn golygu cael cyswllt wyneb yn wyneb â'r cyhoedd orfod dioddef ymosodiad, sarhad na bygythiadau;
•Yn cydnabod ymgyrch “Rhyddid Rhag Ofn" Usdaw sy’n dwyn sylw at drais yn erbyn gweithwyr siop;
•Yn croesawu’r Bil Diogelu Gweithwyr a gyflwynwyd gan Graeme Morrice AS, sy’n creu cosb ychwanegol i’r rheini sy’n ymosod ar weithwyr siop wrth iddynt gyflawni’u dyletswyddau;
•Yn annog holl Aelodau Seneddol Cymru i gefnogi’r Bil Diogelu Gweithwyr mewn pleidlais Seneddol yn y dyfodol.