DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 08/03/2013
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2013-0163 Diwrnod y Gymanwlad
Codwyd gan:
Rebecca Evans
Tanysgrifwyr:
Keith Davies 11/03/2013
Mike Hedges 11/03/2013
Darren Millar 11/03/2013
Mohammad Asghar 11/03/2013
David Rees 11/03/2013
Joyce Watson 11/03/2013
Simon Thomas 11/03/2013
David Melding 13/03/2013
Christine Chapman 13/03/2013
Mark Isherwood 13/03/2013
Gwenda Thomas 15/03/2013
Diwrnod y Gymanwlad
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn cydnabod bod Diwrnod y Gymanwlad yn gyfle i ddathlu’r sefydliad unigryw hwn o 54 gwladwriaeth, sy’n cynrychioli 30% o bobl y byd.
Yn croesawu bod pob Pennaeth Gwladwriaeth wedi cytuno i fabwysiadu Siarter y Gymanwlad sy’n rhoi’r gwerthoedd sylfaenol y mae pobl y Gymanwlad yn credu ynddynt ac y maent yn disgwyl i’w llywodraethau eu cefnogi a’u hamddiffyn.
Yn galw ar arweinwyr y Gymanwlad i gynnal democratiaeth a hawliau dynol, hybu goddefgarwch a pharch, diogelu’r amgylchedd, darparu mynediad at iechyd, addysg a bwyd, a chydnabod swyddogaeth gadarnhaol pobl ifanc wrth hybu’r gwerthoedd hyn a gwerthoedd eraill.