OPIN-2013-0210 Llewod Prydain ac Iwerddon yn Ennill y Gyfres yn Erbyn Awstralia

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 08/07/2013

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2013-0210 Llewod Prydain ac Iwerddon yn Ennill y Gyfres yn Erbyn Awstralia

Codwyd gan:

Mike Hedges

Tanysgrifwyr:

Mohammad Asghar 08/07/2013
Paul Davies 08/07/2013
David Rees 08/07/2013
Mick Antoniw 08/07/2013
Ann Jones 08/07/2013
Mark Isherwood 08/07/2013
Bethan Jenkins 08/07/2013
William Graham 09/07/2013
Gwenda Thomas 09/07/2013
Peter Black 09/07/2013
Christine Chapman 09/07/2013
David Melding 09/07/2013
Angela Burns 10/07/2013
Rebecca Evans 10/07/2013
Keith Davies 10/07/2013
Byron Davies 15/07/2013

Llewod Prydain ac Iwerddon yn ennill y gyfres yn erbyn Awstralia

Mae’r Cynulliad hwn:

Yn falch o longyfarch tîm rygbi Llewod Prydain ac Iwerddon am ennill y gyfres o gemau prawf yn erbyn Awstralia o ddwy gêm i un;

Yn nodi sgôr y Llewod o 41-16 i ennill y drydedd gêm brawf yn erbyn y Walabis, a arweiniodd at ennill y gyfres am y tro cyntaf ers dros 16 mlynedd;

Yn cydnabod llwyddiant y tîm o dan arweinyddiaeth a rheolaeth Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland;

Yn cydnabod hefyd bod 10 chwaraewr rygbi o Gymru, gyda’r Cymro Alun Wyn Jones yn gapten, wedi chwarae yn y drydedd gêm brawf, sy’n record;

Yn dymuno pob llwyddiant i Lewod Prydain ac Iwerddon yn nhwrnameintiau’r dyfodol, gan gynnwys eu taith yn 2017 i Seland Newydd.