DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 31/10/13
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2013-0232 Rhoi’r gorau iddi dros Gymru
Codwyd gan:
Rebecca Evans
Tanysgrifwyr:
Mike Hedges 04/11/2013
Mohammad Asghar 04/11/2013
Keith Davies 04/11/2013
Llyr Huws Gruffydd 04/11/2013
Alun Ffred Jones 04/11/2013
Christine Chapman 04/11/2013
David Rees 04/11/2013
William Graham 05/11/2013
Lindsay Whittle 05/11/2013
Peter Black 05/11/2013
David Melding 07/11/2013
Sandy Mewies 08/11/2013
Julie Morgan 28/11/2013
Joyce Watson 09/12/2013
Rhoi’r gorau iddi dros Gymru
Mae’r Cynulliad hwn:
yn nodi bod ysmygu’n lladd dros 5,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru ac yn costio bron i £800 miliwn y flwyddyn i economi Cymru;
yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o ostwng cyfraddau ysmygu o’r 23% cyfredol i 16% erbyn 2020;
yn croesawu ymgyrch Rhoi'r gorau iddi dros Gymru, sy'n galw ar weithleoedd i hyrwyddo cefnogaeth hyblyg i roi’r gorau i ysmygu ar gyfer cyflogeion, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd er mwyn iddynt fod wedi’u harfogi’n llawn i gefnogi merched beichiog i roi’r gorau i ysmygu, ac i ddarparwyr gwasanaeth iechyd meddwl gael eu hyfforddi o ran cynnig cymorth priodol i ddefnyddwyr gwasanaeth i’w helpu i roi’r gorau i ysmygu;
yn canmol Undeb Rygbi Cymru am gefnogi’r ymgyrch.