OPIN-2013-0253 - Preifateiddio'r Gwasanaeth Prawf

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 11/12/13

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2013-0253 - Preifateiddio'r Gwasanaeth Prawf

Codwyd gan:

Simon Thomas

Tanysgrifwyr:

Elin Jones 12/12/13

Jocelyn Davies 12/12/2013

Llyr Gruffydd 12/12/2013

Rhun ap Iorwerth 12/12/2013

Preifateiddio'r Gwasanaeth Prawf

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi y gall y problemau a wynebir gan droseddwyr fod yn gymhleth, ac mae o'r farn bod gan staff y gwasanaeth prawf y profiad a'r hyfforddiant sydd eu hangen i helpu troseddwyr.

Yn annog Llywodraeth San Steffan i ailystyried cynlluniau i breifateiddio'r gwasanaeth prawf.

Yn credu y bydd cynigion Llywodraeth San Steffan yn darnio gwaith partneriaeth lleol lle y mae ymddiriedolaethau prawf ar hyn o bryd yn chwarae rôl hanfodol , gan gynnwys: pobl ifanc sy’n ar fin dod yn oedolion, mentrau gyda theuluoedd cythryblus, sefydliadau i droseddwyr sy’n fenywod a phartneriaethau diogelwch cymunedol.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cymryd rheolaeth o bwerau cyfiawnder a phlismona er budd diogelwch cymunedol.