DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 15/01/14
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2014-0256 - Uniondeb Cyfansoddiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Codwyd gan:
Mick Antoniw
Tanysgrifwyr:
David Rees 16/01/2014
Julie James 16/01/2014
Mike Hedges 16/01/2014
Keith Davies 16/01/2014
Rebecca Evans 20/01/2014
Keith Davies 24/01/2014
Christine Chapman 24/01/2014
Leighton Andrews 24/01/2014
Julie Morgan 27/01/2014
Jenny Rathbone 28/01/2014
Uniondeb Cyfansoddiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn credu:
1.Bod etholiadau yn eiddo i'r bobl;
2.Fel mater o egwyddor gyfansoddiadol, bod angen cael mandad gan y bobl cyn gwneud newidiadau etholiadol sylweddol;
3.Bod prif berchenogaeth y trefniadau etholiadol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn perthyn i bobl Cymru;
4. Na ddylai unrhyw Lywodraeth yn San Steffan ymyrryd â threfniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru heb fandad ar ffurf ymrwymiad maniffesto etholiad cyffredinol neu heb gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu heb fandad refferendwm.