DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 29/01/14
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2014-0259 - Cofrestru gorfodol gan y wladwriaeth ar gyfer trinwyr gwallt a barbwyr yng Nghymru
Codwyd gan:
Keith Davies
Tanysgrifwyr:
Peter Black 30/01/2014
Simon Thomas 30/01/2014
Eluned Parrott 31/01/2014
Mike Hedges 03/02/2014
William Graham 05/02/2014
Mick Antoniw 05/02/2014
Christine Chapman 05/02/2014
Aled Roberts 05/02/2014
Mark Isherwood 10/02/2014
Cofrestru gorfodol gan y wladwriaeth ar gyfer trinwyr gwallt a barbwyr yng Nghymru
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn nodi ymgyrch y Cyngor Trin Gwallt ar gyfer cofrestru gorfodol gan y wladwriaeth ar gyfer trinwyr gwallt a barbwyr yng Nghymru.
Yn cydnabod, o dan Ddeddf Trin Gwallt (Cofrestru) 1964, er y gall unigolyn wneud cais am gael ei gofrestru gyda'r wladwriaeth, bod y system hon yn wirfoddol.
Yn cefnogi ymgyrch y Cyngor Trin Gwallt i:
•godi proffesiynoldeb a safonau gyda fframwaith o safonau cymhwyster gofynnol a chofrestru gorfodol gyda'r wladwriaeth i bob Siop Trin Gwallt a Barbwr;
•cael gwared ar y rheini sy'n ymarfer heb unrhyw gymwysterau na phrofiad; a
•sicrhau bod y diwydiant yn gyson â phroffesiynolion eraill a reoleiddir a gwledydd eraill lle mae cofrestru gorfodol gyda'r wladwriaeth yn ofynnol
Yn annog Llywodraeth y DU i ystyried y mater hwn.