DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 11/03/14
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2014-0279 – 30 Mlynedd ers Streic y Glowyr
Codwyd gan:
Keith Davies
Mick Antoniw
Tanysgrifwyr:
Mike Hedges 11/03/2014
Jenny Rathbone 11/03/2014
Ann Jones 11/03/2014
David Rees 11/03/2014
Rebecca Evans 11/03/2014
Joyce Watson 11/03/2014
Julie James 12/03/2014
Lynne Neagle 12/03/2014
Leighton Andrews 12/03/2014
Gwyn Price 12/03/2014
Mick Antoniw 12/03/2014
Lindsay Whittle 12/03/2014
Christine Chapman 19/03/2014
30 Mlynedd ers Streic y Glowyr
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod 30 mlynedd ers streic y glowyr, a arweiniwyd gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr;
Yn cefnogi’r alwad am ymchwiliad i ddigwyddiadau yn Orgreave ym mis Mehefin 1984;
Yn galw ar y blaid Geidwadol i ymddiheuro am ddweud celwydd wrth y bobl ym 1984 ynghylch ei bwriad i anhreithio’r diwydiant glo;
Yn cydnabod gwydnwch y cymunedau glofaol wrth amddiffyn eu diwydiant;
Yn cydnabod y rhan bwysig a chwaraeodd menywod mewn cymunedau glofaol yn ystod ac ar ôl y streic; ac
Yn credu bod parhau â’r cymorth i gyn-gymunedau glofaol yn hanfodol i dwf economaidd Cymru.