OPIN-2014-0318 Effaith amgylcheddol ffordd liniaru'r M4

Cyhoeddwyd 20/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 20/11/14

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2014-0318 Effaith amgylcheddol ffordd liniaru'r M4

 

Cyflwynwyd gan:

Jocelyn Davies

 

Tanysgrifwyr:

Simon Thomas 20/11/2014
Lindsay Whittle 21/11/2014
Rhun ap Iorwerth 21/11/2014
Llyr Gruffydd 24/11/2014
Eluned Parrott 02/02/2015
Aled Roberts 02/02/15
Peter Black 03/02/15
William Powell 04/02/15
Kirsty Williams 04/03/2015
Nick Ramsay 05/03/2015
Mark Isherwood 06/03/2015
Alun Ffred Jones 09/03/2015
Antoinette Sandbach 10/03/2015
Leanne Wood 11/03/2015
Byron Davies 17/03/2015
Bethan Jenkins 17/03/2015

Effaith amgylcheddol ffordd liniaru'r M4

Mae'r Cynulliad hwn:

a) Yn gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wario £1 biliwn ar ddarn newydd o'r M4 sy'n 14 milltir o hyd yn ne Cymru;

b) Yn nodi effaith amgylcheddol y llwybr arfaethedig, a fydd yn arwain at golli un hectar o goetir hynafol unigryw ac yn effeithio ar bump o safleoedd cadwraeth natur pwysig a ddynodwyd ar lefel cenedlaethol;

c) Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a oedd yn datgan bod 'cwestiynau difrifol sydd heb eu hateb' ynghylch a oedd y broses ar gyfer dewis llwybr yn bodloni gofynion cyfraith amgylcheddol;

d) Yn galw ar y Llywodraeth i adolygu ei phenderfyniad ac ystyried yr holl opsiynau eraill i leihau'r dinistr amgylcheddol y bydd y cynlluniau yn eu hachosi.