OPIN-2016-0006 Gwasanaethau Canser yng Nghymru

Cyhoeddwyd 09/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG

A GYFLWYNWYD AR 09/06/16

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

 

OPIN-2016-0006 Gwasanaethau Canser yng Nghymru

 
 
Cyflwynwyd gan:

Rhun ap Iorwerth

Tanysgrifwyr:
Sian Gwenllian 09/06/16
Dai Lloyd 09/06/16
Bethan Jenkins 10/06/16
Llyr Gruffydd 10/06/16
Steffan Lewis 13/06/16
Mohammad Asghar 13/06/16
Mark Isherwood 15/6/16
Neil McEvoy 21/06/16

Gwasanaethau Canser yng Nghymru
 
Mae'r Cynulliad hwn: 

Yn cymeradwyo adroddiad ymchwil Cancer Research UK Gwasanaethau Canser yng Nghymru: Ble Nesaf ac yn diolch i bawb a gynorthwyodd i gyfrannu ato;

Yn cydnabod yr heriau anferth ar draws GIG Cymru ac ymrwymiad ac ymroddiad enfawr yr holl staff sy'n rhan ohono; ac

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar bob un o'r 10 o argymhellion yn yr adroddiad i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion canser ym mhob rhan o Gymru.