DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG
A GYFLWYNWYD AR 23/06/16
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2016-0011 Dathlu 15 mlynedd o Glas Cymru
Cyflwynwyd gan:
Dafydd Elis-Thomas
Tanysgrifwyr:
David Rees 28/06/16
Huw Irranca-Davies 29/06/16
Llyr Gruffydd 29/06/16
Hefin David 30/06/16
Nick Ramsay 26/09/16
Dawn Bowden 26/09/16
Vikki Howells 27/09/16
Joyce Watson 27/09/16
Dathlu 15 mlynedd o Glas Cymru
Mae'r Cynulliad hwn:
Yn llongyfarch Glas Cymru ar gyrraedd pymtheg mlynedd ers caffael Dŵr Cymru;
Yn cydnabod Dŵr Cymru am fod y cwmni cyntaf, a'r unig gwmni cyfleustodau o hyd sy'n ailfuddsoddi enillion ariannol er budd cwsmeriaid a'r amgylchedd;
Yn llongyfarch Dŵr Cymru ymhellach ar sicrhau bod unrhyw gynnydd yn ei filiau yn is na chwyddiant mynegai prisiau manwerthu am y saith mlynedd diwethaf, a'r gefnogaeth y mae'n ei chynnig, sy'n flaengar yn y sector, i'r rhai sy'n wynebu trafferthion o ran talu eu biliau;
Yn llongyfarch Glas Cymru ar bymtheg mlynedd llwyddiannus ac yn credu bod ei fodel busnes yn un y gall y tair miliwn o gwsmeriaid y cwmni fod yn falch ohono ac ymddiried ynddo.