OPIN-2016-0013 Diogelwch ar groesfannau rheilffyrdd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 11/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG

A GYFLWYNWYD AR 11/07/16

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant 

OPIN-2016-0013 Diogelwch ar groesfannau rheilffyrdd yng Nghymru

 
Cyflwynwyd gan:
Lynne Neagle

Tanysgrifwyr:
Mohammad Asghar 12/07/16
Mark Isherwood 12/07/16
Steffan Lewis 12/07/16
David Rowlands 12/07/16
Vikki Howells 12/07/16
Huw Irranca-Davies 12/07/16
Dawn Bowden 12/07/16
Simon Thomas 13/07/16
Dai Lloyd 13/07/16
Joyce Watson 27/09/16
 
Diogelwch ar groesfannau rheilffyrdd yng Nghymru
 
Mae'r Cynulliad hwn:

Yn nodi:       

  • bod tua 6,500 o groesfannau rheilffyrdd ar rwydwaith rheilffyrdd Prydain, gan gynnwys tua 1,100 yng Nghymru;
  • rhwng 2006 a 2014, bu 28 o farwolaethau ar groesfannau rheilffyrdd;
  • er bod nifer y digwyddiadau ar groesfannau rheilffyrdd wedi gostwng, cafodd 275 o ddigwyddiadau eu cofnodi ar Lwybr Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf.

 Yn croesawu ymgyrch 'Dangerous Ground' Network Rail ac yn cefnogi ei waith i hyrwyddo diogelwch ar reilffyrdd a chroesfannau rheilffyrdd yng Nghymru.