DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG
A GYFLWYNWYD AR 30/09/16
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2016-0017 Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn
Cyflwynwyd gan:
Janet Finch-Saunders
Tanysgrifwyr:
Vikki Howells 3/10/16
Nick Ramsay 4/10/16
Janet Finch-Saunders 6/10/16
Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn
Mae'r Cynulliad hwn:
- Yn nodi ac yn ategu galwadau a gaiff eu gwneud yn Natganiad Gweinidogol Llywodraeth Cymru ynghylch Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, y gall unigrwydd ac arwahanrwydd gael effaith fawr ar iechyd a llesiant
- Yn nodi gwaith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a chanfyddiadau ei hadroddiad ym mis Tachwedd 2015 fod 17 y cant o bobl rhwng 75 a 79 oed, a 65 y cant o bobl dros 80 yn teimlo'n unig.
- Yn galw am gyflwyno Bill Hawliau Pobl Hŷn, i ymestyn hawliau pobl hŷn a chyflwyno dyletswydd ar gyrff y sector cyhoeddus i ymgynghori â phobl hŷn wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.