​DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG
A GYFLWYNWYD AR 12/10/16
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2016-0018 Ymgyrch Presgripsiwn Brys BMA Cymru Wales
Cyflwynwyd gan:
Rhun ap Iorwerth
Tanysgrifwyr:
Janet Finch-Saunders 13/10/16
Bethan Jenkins 14/10/16
Dai Lloyd 14/10/16
Mohammad Asghar 14/10/16
Llyr Gruffydd 14/10/16
Sian Gwenllian 17/10/16
Mark Isherwood 18/10/16
Angela Burns 19/10/16
Ymgyrch Presgripsiwn Brys BMA Cymru Wales
Mae'r Cynulliad hwn:
- Yn cefnogi Ymgyrch Presgripsiwn Brys BMA Cymru Wales
- Yn croesawu papur datrysiadau Presgripsiwn Brys ac adroddiad arolwg Presgripsiwn Brys BMA Cymru Wales
Yn cydnabod fod angen y canlynol ar feddygon teulu er mwyn i feddygfeydd ffynnu:
- Capasiti i weld cleifion a threulio amser â hwy
- Cynyddu'r cyllid ar gyfer practisau
- Rhagor o staff i gefnogi meddygon teulu
- Llai o fiwrocratiaeth