DATGANIAD BARN YSGRIFENEDIG
A GYFLWYNWYD AR 24/02/16
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
OPIN-2016-0380 Ardaloedd llechi Gwynedd fel un o Safleoedd Treftadaeth y Byd
Cyflwynwyd gan:
Alun Ffred Jones
Tanysgrifwyr:
Gwenda Thomas 26/02/16
Lynne Neagle 29/02/16
Rhun ap Iorwerth 29/02/16
Simon Thomas 29/02/16
Bethan Jenkins 29/02/16
Suzy Davies 29/02/16
William Graham 29/02/16
Mohammad Asghar 01/03/16
Llyr Gruffydd 03/03/16
Ardaloedd llechi Gwynedd fel un o Safleoedd Treftadaeth y Byd
Mae'r Cynulliad hwn:
Yn nodi'r cais gan Gyngor Gwynedd i ddynodi ardaloedd llechi Gwynedd fel safle treftadaeth y byd UNESCO;
Yn credu y bu diwydiant llechi gogledd-orllewin Cymru yn rhan annatod o'r chwyldro diwydiannol a'i ddylanwad yn bellgyrhaeddol ar dirlun a diwylliant Cymru;
Yn credu bod y diwydiant llechi yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r economi leol oherwydd pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth a'r safleoedd llechi sy'n dal yn weithredol; ac
Yn cydnabod ac yn cefnogi cais Cyngor Gwynedd i roi statws treftadaeth i ardaloedd llechi Gwynedd a fyddai'n hwb sylweddol i'r cymunedau a'r gwaith o gynnal y diwylliant cynhenid i'r dyfodol.