OPIN-2017-0034 - Cefnogaeth i gerddoriaeth fyw - achub Stryd Womanby

Cyhoeddwyd 22/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​DATGANIAD BARN YSGRIFENEDIG

A GYFLWYNWYD AR 22/03/17

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

 

OPIN-2017-0034 - Cefnogaeth i gerddoriaeth fyw - achub Stryd Womanby

 
Cyflwynwyd gan:

Neil McEvoy
Simon Thomas

Tanysgrifwyr:
Hefin David 29/3/17
Rhun ap Iorwerth 03/04/17
Sian Gwenllian 03/04/17
Llyr Gruffydd 03/04/17
Dai Lloyd 03/04/17
Steffan Lewis 05/04/17
Leanne Wood 06/04/17

 

Mae'r Cynulliad hwn:

Yn cydnabod y bygythiad i leoliadau cerddoriaeth fyw ledled Cymru.

Yn cydnabod y rhan unigryw y mae Stryd Womanby yn ei chwarae o ran cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd.

Yn nodi'r nifer sylweddol o artistiaid sydd wedi dechrau eu gyrfaoedd yn chwarae mewn lleoliadau yn Stryd Womanby.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r egwyddor o asiant dros newid i Gymru fel bod angen i ddatblygwyr ganfod atebion i sŵn o fusnesau gerllaw sydd eisoes yn cynnal digwyddiadau.