OPIN-2017-0047 - Gobaith i'r Dwyrain Canol

Cyhoeddwyd 13/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/09/2017

DATGANIAD BARN YSGRIFENEDIG

A GYFLWYNWYD AR 13/07/17

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

 

OPIN-2017-0047 Gobaith i'r Dwyrain Canol 

 
Cyflwynwyd gan:

Darren Millar

Tanysgrifwyr:
Neil McEvoy 17/07/17
Andrew RT Davies 17/07/17
Mohammad Asghar 17/07/17
Paul Davies 17/07/17
Russell George 17/07/17
Mark Isherwood 18/07/17
Mike Hedges 18/07/17
Vikki Howells 18/07/17
Angela Burns 18/07/17
David Rees 19/07/17
Huw Irranca-Davies 19/07/17
Simon Thomas 19/07/17
Steffan Lewis 20/07/17
Llyr Gruffydd 21/07/17

Suzy Davies 18/09/17

Dai Lloyd 18/09/17


 
Gobaith i'r Dwyrain Canol
 
Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn croesawu ymgyrch Open Doors ar gyfer gobaith i'r dwyrain canol ('Hope for the Middle East') sy'n ceisio:

a) Sicrhau bod y fframweithiau cyfreithiol presennol yn Syria ac Irac a'r rhai yn y dyfodol yn hyrwyddo a diogelu yn llawn hawliau pob dinesydd, ni waeth beth fo'i hil, crefydd neu statws arall.

b) Sicrhau gwell amodau byw i bob dinesydd, gan gynnwys ffoaduriaid sy'n dychwelyd a'r bobl a ddadleolir yn fewnol.

c) Nodi ac arfogi arweinwyr crefyddol a sefydliadau ffydd i chwarae rhan ganolog yn y broses o gymodi ac ailadeiladu cymdeithasau yn Syria ac Irac.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r DU i weithio gyda'r gymuned ryngwladol i gyflawni'r nodau hyn.