Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (85)
Dyddiad: Dydd Mercher, 1 Hydref 2008
Amser: 
1.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol 
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn 
cyntaf. Atebwyd cwestiynau 6 a 7 gan y Dirprwy Weinidog dros Adfywio. 
………………………………
2.01pm
Eitem 
2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth 
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf.
………………………………
2.49pm
Cynnig 
i atal y Rheolau Sefydlog
NNDM Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y cyfarfod llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynnig o dan eitem 3 gael ei ystyried yn y cyfarfod llawn ddydd Mercher 1 Hydref 2008.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………………
2.49pm
Cynnig 
i sefydlu ac ethol Pwyllgor Deddfwriaethol
NNDM Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 21.1, yn sefydlu pwyllgor i ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru) ac i gyflwyno adroddiad arno. Bydd y pwyllgor yn dod i ben os bydd y Mesur yn cael ei basio, os bydd yn syrthio neu os caiff ei dynnu yn ôl neu ar ôl i bwyllgor newydd gael ei sefydlu ar gyfer trafodion cyfnod 2 yn unol â Rheol Sefydlog 23.31(ii).
NNDM Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Janice Gregory (Llafur), Joyce Watson (Llafur), Dai Lloyd (Plaid Cymru), Nick Ramsay (Ceidwadwyr) a Jenny Randerson (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelodau o’r Pwyllgor ar y Mesur arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………………
2.49pm
Eitem 
4: Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad 
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
………………………………
2.50pm
Eitem 
5: Dadl ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig Janet Ryder - Dangos Motiffau a Fflagiau Cenedlaethol ar Blatiau Cofrestru Cerbydau  
NNDM3974 Janet Ryder (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.50:
Yn cytuno y caiff Janet Ryder gyflwyno Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 28 Medi 2007 dan Reol Sefydlog 22.48, a Memorandwm Esboniadol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………………
3.14pm
Eitem 
6: Dadl ar adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar Dlodi ac Amddifadedd yn y Gymru wledig 
NDM4016 Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi:
Adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ei ymchwiliad i Dlodi ac Amddifadedd yn y Gymru Wledig a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Gorffennaf 2008.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………………
4.07pm
Eitem 
7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig 
NDM4015 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) Dangos ei hymrwymiad i fferylliaeth gymunedol drwy gyflwyno gwasanaethau gwell y contract fferylliaeth;
b) Sicrhau nad yw ad-drefnu’r GIG yn rhwystro comisiynu rhagor o wasanaethau fferylliaeth gymunedol; a
c) Darparu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r rheoliadau wedi’u cyfuno.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 1 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt 1 newydd, ac ail-rifo’r rhifau sy’n dilyn:
"Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi:
a) 
swyddogaeth fferyllwyr cymunedol o ran darparu gwasanaethau pan fydd eu hangen ar gleifion; a
b) 
beirniadaeth o’r  gwasanaeth ocsigen yn y cartref ers cyflwyno’r contract newydd.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
| O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm | 
|---|---|---|---|
| 13 | 0 | 33 | 46 | 
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ar ddiwedd is-bwynt b) rhoi
"a sicrhau y cynrychiolir fferylliaeth gymunedol ar y lefel uchel briodol mewn unrhyw strwythur GIG newydd”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
| O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm | 
|---|---|---|---|
| 14 | 0 | 33 | 47 | 
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i archwilio posibilrwydd diwygio rheoliadau i sicrhau 
nad oes cystadleuaeth niweidiol rhwng fferyllwyr cymunedol a meddygon teulu ar gyfer gweinyddu presgripsiynau’r GIG mewn ardaloedd gwledig.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
| O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm | 
|---|---|---|---|
| 48 | 0 | 0 | 48 | 
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Tynnwyd yn ôl
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r rheoliadau.”
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4015 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) Dangos ei hymrwymiad i fferylliaeth gymunedol drwy gyflwyno gwasanaethau gwell y contract fferylliaeth;
b) Sicrhau nad yw ad-drefnu’r GIG yn rhwystro comisiynu rhagor o wasanaethau fferylliaeth gymunedol;
c) Darparu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r rheoliadau wedi’u cyfuno; a
ch) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i archwilio posibilrwydd diwygio rheoliadau i sicrhau nad oes cystadleuaeth niweidiol rhwng fferyllwyr cymunedol a meddygon teulu ar gyfer gweinyddu presgripsiynau’r GIG mewn ardaloedd gwledig.
| O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm | 
|---|---|---|---|
| 47 | 0 | 0 | 47 | 
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
………………………………
4.54pm
Gohiriwyd 
y cyfarfod a chanwyd y gloch.
4.58pm
Cyfnod pleidleisio 
………………………………
5.02pm
Eitem 
8: Dadl fer 
NDM4014 William Graham (Dwyrain De Cymru):
Dyfodol y gwasanaeth carchardai yng Nghymru
………………………………
 
                             
                             
                            