01/12/2009 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (166)

Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Rhagfyr 2009

Amser: 13.30

Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru

Gofynnwyd y 13 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiynau 5, 6 a 10 yn ôl.

………………………

14.17

Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

………………………

Eitem 3: Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Dai: Digartrefedd - Gohiriwyd yr eitem hon tan 12 Ionawr

………………………

14.29

Eitem 4: Datganiad Deddfwriaethol gan y Dirprwy Weinidog dros Dai: Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Tai a Llywodraeth Leol) 2010

………………………

14.59

Eitem 5: Dadl ar Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Amgylchedd) 2010 a’i gymeradwyo, o dan Reol Sefydlog 22.34

NDM4335 Jane Davidson (Pontypridd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:

Yn cymeradwyo Gorchymyn Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Amgylchedd) 2010.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

'Yn gresynu wrth y diffyg eglurder ynghylch lle bydd ffiniau Cymhwysedd Deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

35

49

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

'Yn gresynu wrth y defnydd eang o eithriadau i’r eithriadau ac yn nodi bod y rhain yn cyfrannu at gymhlethdod a diffyg eglurder y ddeddfwriaeth.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

35

49

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig.

NDM4335 Jane Davidson (Pontypridd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:

Yn cymeradwyo Gorchymyn Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Amgylchedd) 2010.

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd y cynnig.  

………………………

15.39

Eitem 6: Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru

NDM4336 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu Adolygiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2008-09; a

2. Yn nodi y bydd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn llunio ymateb ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru ac y bydd yn cyflwyno adroddiad yn ei gylch i’r Cynulliad Cenedlaethol erbyn 31 Mawrth 2010.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):

Rhoi pwynt newydd i mewn ar ôl pwynt 1:

'Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod polisïau cenedlaethol sy’n anelu at wireddu hawliau plant yn cael eu rhoi ar waith yn llawn mewn dull cyson ac amserol.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig.

NDM4336 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu Adolygiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2008-09; a

2. Yn nodi y bydd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn llunio ymateb ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru ac y bydd yn cyflwyno adroddiad yn ei gylch i’r Cynulliad Cenedlaethol erbyn 31 Mawrth 2010.

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd y cynnig.  

.........................................

16.24

Y Cyfnod Pleidleisio

Daeth y cyfarfod i ben am 16.25

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30 ddydd Mercher 2 Rhagfyr 2009

Ysgrifenyddiaeth y Siambr