03/12/2008 - Votes and Proceedings

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (101)

Dyddiad: Dydd Mercher, 3 Rhagfyr 2008
Amser: 1.30pm

Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 5 gan y Dirprwy Weinidog dros Adfywio.

………………………………

2.01pm
Eitem 2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4 a 6 eu grwpio.

………………………………

2.37pm
Cwestiwn brys: Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Will the Minister make a statement on today’s UK Government announcement regarding the Gwynt Y Mor Wind Farm?

Atebwyd y cwestiwn brys.

………………………………

3.05pm
Eitem 3: Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Atebwyd y 5 cwestiwn i Gomisiwn y Cynulliad.

………………………………

3.15pm
Eitem 4: Dadl ar gynnig David Melding am Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol - Comisiynydd Iaith Gymraeg

NDM4050 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Gorchymyn Sefydlog 22.50, yn cytuno y caiff David Melding gyflwyno Gorchymyn arfaethedig i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 27 Medi 2007 dan Reol Sefydlog 22.48, a Memorandwm Esboniadol.  

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

Votes and Proceedings

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

25

41

Gwrthodwyd y cynnig.

………………………………

4.24pm
Eitem 5: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM4071 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

1. Yn gresynu bwriad Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi cyflwyno tâl am gofrestru eithriadau gwastraff bob tair blynedd

2. Yn credu bod y ffioedd hyn yn gyfystyr â threth ychwanegol ar y diwydiant amaethyddol

3. Yn nodi y bydd y newid hwn yn mynd yn groes i’r nodau a bennwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ei hun i leihau biwrocratiaeth mewn amaethyddiaeth a’r egwyddor mai’r llygrydd ddylai dalu

4. Yn galw ar Lywodraeth Cynullid Cymru i roi pwysau i gadw’r eithriadau gwastraff amaethyddol presennol yn rhad ac am ddim gydol oes y busnesau, os nad oes newid sylweddol yn eu gweithgarwch.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

Votes and Proceedings

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

29

42

Gwrthodwyd y cynnig.

………………………………

5.08pm
Eitem 6: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

NDM4072 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod y trydydd o Ragfyr yn Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl

2. Yn croesawu cyflwyno Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau

3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i fabwysiadu egwyddorion y Confensiwn ym mhob agwedd ar bolisïau’r llywodraeth.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Ym mhwynt 3 ar ôl "polisi”, ychwanegu "ar ôl i’r confensiwn gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU”.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Votes and Proceedings

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

14

42

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella mynediad y cyhoedd at hyfforddiant ymwybyddiaeth ynghylch anabledd.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Votes and Proceedings

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

0

42

Derbyniwyd gwelliant 2.


Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod y trydydd o Ragfyr yn Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl

2. Yn croesawu cyflwyno Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau

3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i fabwysiadu egwyddorion y Confensiwn ym mhob agwedd ar bolisïau’r llywodraeth ar ôl i’r confensiwn gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU

4. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella mynediad y cyhoedd at hyfforddiant ymwybyddiaeth ynghylch anabledd.

Votes and Proceedings

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

0

42

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

………………………………

6.00pm
Cyfnod pleidleisio

………………………………

6.02pm
Eitem 7: Dadl fer

NDM4073 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru):

Elusen adeg y Nadolig - Tymor Ewyllys Da?

………………………………

Daeth y cyfarfod i ben am ?pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 1.30pm ddydd Mawrth, 9 Rhagfyr 2008

Ysgrifenyddiaeth y Siambr