08/06/2010 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (202)


Dyddiad: Dydd Mawrth, 8 Mehefin 2010

Amser: 13.30

Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru

Mae'r Llywydd wedi cael ei hysbysu, o dan Reol Sefydlog 7.50, y bydd y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.

………………………

14.45
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

………………………

15.18
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Dreftadaeth: Nofio am ddim

………………………

15.42
Eitem 4: Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: Awtistiaeth

………………………

16.31
Eitem 5: Datganiad gan y Gweinidog dros Dreftadaeth: Casgliad Llyfrau Prin Caerdydd i Gymru

………………………

17.01
Eitem 6: Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Gorchmynion Rhan 2A) (Cymru) 2010

NDM4487 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Gorchmynion Rhan 2A) (Cymru) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ebrill 2010.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

17.13
Eitem 7: Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Pwerau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010  

NDM4488 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 24.4

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Pwerau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ebrill 2010.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

17.14
Eitem 8: Cynnig i gymeradwyo Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru)

NDM4486 Gwenda Thomas (Castell-nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru)

Gosodwyd y Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 25 Ionawr 2010;

Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 21 Mai 2010.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi argymhelliad adroddiad y Pwyllgor Cyfnod 1 na ddylai'r GIG fod yn awdurdod arweiniol bob tro.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi y caiff y darpariaethau yn y Mesur hwn eu cyllido drwy chwalu'r grant ar gyfer cydweithio ac yn mynegi pryder ynghylch effaith y penderfyniad hwn ar nifer o wasanaethau hanfodol ledled Cymru. TYNNWYD YN ÔL

NDM4486 Gwenda Thomas (Castell-nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru).
Yn nodi argymhelliad adroddiad y Pwyllgor Cyfnod 1 na ddylai'r GIG fod yn awdurdod arweiniol bob tro.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.


18.03
NDM4485 Gwenda Thomas (Castell-nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii)(b) a (c), sy’n codi o ganlyniad i’r Mesur.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

Daeth y cyfarfod i ben am 18.04

………………………

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30 ddydd Mercher, 9 Mehefin 2010.

Ysgrifenyddiaeth y Siambr