08/10/2008 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (87)

Dyddiad: Dydd Mercher, 8 Hydref 2008
Amser: 1.30pm

Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog

NNDM Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:


Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i gynnig ethol aelod i bwyllgor i ystyried deisebau ynghylch Gorchymyn Gweithdrefn Cynulliad Arbennig drafft - "Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (A40) (Gwelliant Penblewin i Barc Slebets) 200-” gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 8 Hydref 2008.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

Cynnig i ethol aelod i bwyllgor


NNDM Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Chris Franks (Plaid Cymru) yn aelod o’r pwyllgor i ystyried deisebau ynghylch Gorchymyn Gweithdrefn Cynulliad Arbennig drafft - "Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (A40) (Gwelliant Penblewin i Barc Slebets) 200-” yn lle Mohammad Asghar (Plaid Cymru).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl.

………………………………

2.05pm

Eitem 2: Cwestiynau i Ddirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf.

………………………………

2.48pm

Eitem 3: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y Cyfnod Sylfaen

NDM4024 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)


Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y Cyfnod Sylfaen a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Gorffennaf 2008.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

3.42pm
Eitem 4: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar Dlodi Tanwydd

NDM4023 Mick Bates (Sir Drefaldwyn)


Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar Dlodi Tanwydd yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Gorffennaf 2008.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

4.37pm
Eitem 5: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

NDM4025 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)


Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi â phryder bod:

a) Allyriadau CO2 wedi codi 4.7% er 2005;
b) Cyfanswm allyriadau’r chwe nwy tŷ gwydr wedi codi 3.9% er 2005.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:

a) Cyflwyno deddfwriaeth i ddatganoli pwerau ynghylch datblygiadau ynni dros 50MW;

a) Cyflwyno deddfwriaeth i ddatganoli pwerau ynghylch rheoliadau adeiladu;

c) Cynhyrchu arfarniad amgylcheddol llawn ar bob datblygiad ffordd newydd yng Nghymru;

d) Buddsoddi’n sylweddol mewn microgynhyrchu;

e) Ymateb i’r hinsawdd economaidd bresennol drwy fuddsoddi’n drwm mewn swyddi gwyrdd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

"2. Yn croesawu ymrwymiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru i:

a) Sicrhau gostyngiad o 3% y flwyddyn mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr;

b) Gwneud cais i bwerau gael eu datganoli ar gyfer datblygiadau ynni mwy na 50MW;

c) Gwneud cais i bwerau dros reoliadau adeiladu gael eu datganoli;  

d) Mynd ati’n barhaus i adolygu’r Canllawiau Cynllunio ac Arfarnu Trafnidiaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â tharged y Llywodraeth ar gyfer nwyon tŷ gwydr.

e) Rhoi cymorth sylweddol ar gyfer microgynhyrchu;

f) Ymateb i’r hinsawdd economaidd sydd ohoni drwy baratoi strategaeth swyddi gwyrdd.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

12

40

Derbyniwyd gwelliant 1.


Gan fod gwelliant 1 wedi’i gytuno, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) - ei ddad-ddethol

Ym mhwynt 2 a. rhoi’r gair 'adnewyddadwy’ ar ôl 'datblygiadau ynni’.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) - ei ddad-ddethol


Ym mhwynt 2, rhoi is-bwynt newydd:

"Buddsoddi’n sylweddol mewn datblygu technolegau ynni morol.”

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) - ei ddad-ddethol

Ym mhwynt 2, rhoi is-bwynt newydd:

"Ystyried cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy o amddiffynfeydd rhag llifogydd.”

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi â phryder bod:

a) Allyriadau CO2 wedi codi 4.7% er 2005;
b) Cyfanswm allyriadau’r chwe nwy tŷ gwydr wedi codi 3.9% er 2005.

2. Yn croesawu ymrwymiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru i:

a) Sicrhau gostyngiad o 3% y flwyddyn mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr;

b) Gwneud cais i bwerau gael eu datganoli ar gyfer datblygiadau ynni mwy na 50MW;

c) Gwneud cais i bwerau dros reoliadau adeiladu gael eu datganoli;  

d) Mynd ati’n barhaus i adolygu’r Canllawiau Cynllunio ac Arfarnu Trafnidiaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â tharged y Llywodraeth ar gyfer nwyon tŷ gwydr.

e) Rhoi cymorth sylweddol ar gyfer microgynhyrchu;

f) Ymateb i’r hinsawdd economaidd sydd ohoni drwy baratoi strategaeth swyddi gwyrdd.

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

12

41

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

………………………………

5.23pm
Cyfnod pleidleisio

………………………………

5.24pm
Eitem 6: Dadl fer

NDM4022 Peter Black (Gorllewin De Cymru):


Ie dros Gymru - Dyma ein Cyfle!

………………………………

Daeth y cyfarfod i ben am 5.41pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 1.30pm ddydd Mawrth, 14 Hydref 2008

Ysgrifenyddiaeth y Siambr