Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (1)
Dyddiad: Dydd Mercher, 9 Mai 2007
Amser: 12.30pm
Cymerwyd y gadair gan Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad
12.30pm
Ethol y Llywydd
Estynnodd y Prif Weithredwr a Chlerc wahoddiad am enwebiadau yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 2.6.
Cynigiodd Ieuan Wyn Jones enwebu Dafydd Elis-Thomas.Eiliwyd yr enwebiad gan Edwina Hart. Gan na wnaed unrhyw enwebiad arall, cyhoeddodd y Prif Weithredwr a Chlerc fod Dafydd Elis-Thomas wedi'i ethol yn Llywydd.
12.33pm
Cymerodd y Llywydd y gadair a rhoddodd anerchiad i'r Cynulliad
..............................................
12.35pm
Ethol y Dirprwy Lywydd
Estynnodd y Llywydd wahoddiad am enwebiadau yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 2.6.
Cynigiodd Rhodri Morgan enwebu Rosemary Butler.Eiliwyd yr enwebiad gan Mike German. Gan na wnaed unrhyw enwebiad arall, cyhoeddodd y Llywydd fod Rosemary Butler wedi'i hethol yn Ddirprwy Lywydd.
12.40pm
Cymerodd y Dirprwy Lywydd y gadair a gwnaeth araith fer
..............................................
12.41pm
Cymerodd y Llywydd y gadair a chroesawodd Aelodau i'r Trydydd Cynulliad
………………………………