Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (169)
Dyddiad: Dydd Mercher, 9 Rhagfyr 2009
Amser:
13.00
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl.
.........................................
13.42
Eitem
2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (30 munud)
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 2, 3 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau.
.........................................
14.18
Eitem
3: Enwebiadau ar gyfer Prif Weinidog Cymru
Yn unol â Rheol Sefydlog 4.2, gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog Cymru.
Enwebwyd Carwyn Jones gan Rhodri Morgan.
Gan nad oedd enwebiad arall, bu i'r Llywydd ddatgan mai Carwyn Jones fyddai'r enwebai. Yn unol ag Adran 47 (4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, anfonodd y Llywydd lythyr at Ei Mawrhydi Y Frenhines yn argymell penodi Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru.
Anerchodd Carwyn Jones y Cynulliad
.........................................
14.29
Cynnig
i atal y Rheolau Sefydlog
NDM4349 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynigion o dan eitem 4 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 9 Rhagfyr 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
14.29
Eitem
4: Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau
NDM4350 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Chris Franks (Plaid Cymru) yn aelod o Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1.
NDM4351 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Janet Ryder (Plaid Cymru) fel aelod o’r Pwyllgor Cyllid.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
14.30
Eitem
5: Dadl ar Orchymyn drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Iechyd a Gwasanaethau Iechyd a Lles Cymdeithasol) 2010 a’i gymeradwyo.
NDM4345 Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:
Yn cymeradwyo Gorchymyn drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Iechyd a Gwasanaethau Iechyd a Lles Cymdeithasol) 2010. Gosodwyd y Gorchymyn drafft a’r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 2 Rhagfyr 2009;
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar Orchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 6) 2008 gerbron y Cynulliad ar 20 Mehefin 2008.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
15.11
Eitem
6: Dadl ar Gynnig Darren Millar ar gyfer Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol - Cynllun Parcio Ffafraethol
NNDM4310 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Gorchymyn Sefydlog 22.50, yn cytuno y caiff Darren Millar osod Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 5 Mehefin 2008 dan Reol Sefydlog Rhif 22.48, a Memorandwm Esboniadol.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
20 |
1 |
27 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig.
.........................................
Eitem 7: Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth ar ei ymchwiliad i Graffu ar Is-ddeddfwriaeth a Phwerau Dirprwyedig - Gohiriwyd tan 13 Ionawr
.........................................
15.51
Eitem
8: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS) Cymru
NDM4344 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar ei ymchwiliad i'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru (CAFCASS), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Gorffennaf 2009.
Noder: Gosodwyd ymateb y Dirprwy Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Hydref 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
16.34
Eitem
9: Dadl Ceidwadwyr Cymreig
NDM4345 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder na fydd y Mesur Rheoli Llifogydd a Dŵr yn darparu eglurder ynghylch pwy sy’n gyfrifol am amddiffyn ac atal llifogydd.
2. Yn cydnabod pwysigrwydd mabwysiadu dull o gael un asiantaeth arweiniol ym maes amddiffyn, atal ac ymateb i lifogydd.
3. Yn mynegi pryder ynghylch canlyniadau rhai penderfyniadau cynllunio ar gynyddu perygl llifogydd ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu TAN 15 ar fyrder.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu argymhellion adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Risgiau o Erydu Arfordirol a Llifogydd Llanw yng Nghymru.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
18 |
0 |
31 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Mae’r gwelliannau a ganlyn wedi’u cyflwyno:
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
"Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
yn croesawu cyhoeddi’r Mesur Rheoli Llifogydd a Dŵr
sy’n cyflwyno pwerau a chyfrifoldebau i Weinidogion Cymru;
yn
cydnabod y bydd hyn yn galluogi i’r perygl o lifogydd gael ei reoli yn fwy effeithiol, yn fwy strategol ac yn fwy cynhwysfawr yng Nghymru ac i bobl sy’n byw mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd o unrhyw ffynhonnell gael eu diogelu’n
well;
yn
croesawu llwyddiant Nodyn Cyngor Technegol 15 yn atal datblygu amhriodol mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd; a
yn
canmol y gwaith a wnaed gan y gwasanaethau brys, yr awdurdodau lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd, sefydliadau’r trydydd sector a chymunedau wrth ymateb i’r llifogydd a gafwyd yn ddiweddar a’r partneriaethau effeithiol sydd wedi datblygu.
"
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
33 |
0 |
17 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4345 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
yn croesawu cyhoeddi’r Mesur Rheoli Llifogydd a Dŵr sy’n cyflwyno pwerau a chyfrifoldebau i Weinidogion Cymru;
yn cydnabod y bydd hyn yn galluogi i’r perygl o lifogydd gael ei reoli yn fwy effeithiol, yn fwy strategol ac yn fwy cynhwysfawr yng Nghymru ac i bobl sy’n byw mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd o unrhyw ffynhonnell gael eu diogelu’n well;
yn croesawu llwyddiant Nodyn Cyngor Technegol 15 yn atal datblygu amhriodol mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd; a
yn canmol y gwaith a wnaed gan y gwasanaethau brys, yr awdurdodau lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd, sefydliadau’r trydydd sector a chymunedau wrth ymateb i’r llifogydd a gafwyd yn ddiweddar a’r partneriaethau effeithiol sydd wedi datblygu.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
33 |
0 |
17 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
17.33
Cyfnod pleidleisio
.........................................
Cynnig trefniadol
Cafwyd cynnig trefniadol gan Mark Isherwood yn unol â Rheol Sefydlog 7.26 i ohirio’r ddadl fer.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
Eitem 10: Dadl fer - wedi’i gohirio
NDM4346 Mark Isherwood (Gogledd Cymru):
Anhwylder Straen wedi Trawma Cymhleth.
.........................................