10/10/2007 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (21)

Dyddiad: Dydd Mercher, 10 Hydref 2007
Amser: 12.30pm

Eitem 1: Cwestiynau i'r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai  

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1 a 4 gan y Dirprwy Weinidog dros Dai.

...................................................

1.12pm
Eitem 2: Cwestiynau i'r Gweinidog dros Dreftadaeth  

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.  

...................................................

1.49pm
Eitem 3: Cwestiynau i'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.  Atebwyd cwestiwn 3 gan y Dirprwy Weinidog dros Adfywio. Trosglwyddwyd cwestiynau 4 a 15 i’w hateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai.

...................................................

2.29pm
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus: Canlyniad yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant i Gymru

...................................................

3.18pm
Eitem 5: Cwestiynau i'r Comisiwn

Gofynnwyd yr unig gwestiwn.

...................................................

3.21pm
Eitem 6: Dadl ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig Ann Jones

NDM3656 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.50:

Yn cytuno y caiff Ann Jones osod Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 26 Mehefin 2007 dan Reol Sefydlog 22.48, a Memorandwm Esboniadol.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

...................................................

4.09pm
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM3684 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU

a) I wyrdroi unrhyw gynllun i gau Swyddfeydd Post yng Nghymru;

b) I gymryd camau i adfer hyfywedd ariannol i’n Rhwydwaith Swyddfeydd Post.


Cyflwynwyd y gwelliannau canlynol:


Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu popeth ar ôl "Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:” a rhoi yn ei le:

"1. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i barhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU er mwyn cefnogi rhwydwaith hanfodol a chynaliadwy o Swyddfeydd Post ym mhob rhan o Gymru;

2. Yn croesawu’r ymrwymiad yn Cymru’n Un i greu Cronfa Datblygu Swyddfeydd Post o’r newydd yn ystod tymor presennol y Cynulliad.”

Gwelliant 2 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wneud ailagor Cronfa Ailddatblygu Swyddfa'r Post yn flaenoriaeth ddi-oed.”

4.58pm
Bu i o leiaf dri Aelod ofyn i’r gloch gael ei chanu yn unol â Rheol Sefydlog 7.37.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

18

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan y derbyniwyd gwelliant 1, dad-ddetholwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM3684 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i barhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU er mwyn cefnogi rhwydwaith hanfodol a chynaliadwy o Swyddfeydd Post ym mhob rhan o Gymru;

2. Yn croesawu’r ymrwymiad yn Cymru’n Un i greu Cronfa Datblygu Swyddfeydd Post o’r newydd yn ystod tymor presennol y Cynulliad.

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

6

14

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

...................................................

5.05pm
Eitem 8: Dadl fer

NDM3683 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru):

Yr achos dros ganiatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau.

...................................................

Daeth y cyfarfod i ben am 5.22pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 2.00pm ddydd Mawrth, 16 Hydref 2007

Ysgrifenyddiaeth y Siambr