Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (13)
Dyddiad: Dydd Mercher, 11 Gorffennaf
2007
Amser: 12.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i'r Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf, ac eithrio cwestiynau 5 a 10 a dynnwyd yn ôl a chwestiwn 12 a drosglwyddwyd i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Cafodd cwestiynau 3 ac 8 eu grwpio.
...................................................
1.02pm
Eitem
2: Cwestiynau i'r Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 6 ac 8 eu grwpio.
……………………………
1.36pm
Datganiad
gan y Dirprwy Brif Weinidog
………………………………
2.20pm
Yn unol â Rheol Sefydlog 2.l4, penderfynodd y Cynulliad y dylai’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd barhau yn eu swyddi.
………………………………
2.21pm
Cynnig
i ohirio Rheolau Sefydlog
NDM3654 William Graham (Dwyrain De Cymru)Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:Yn gohirio Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r
rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r Cynnig
heb Ddyddiad Trafod 3655 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 11 Gorffennaf 2007.Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.………………………………
2.21pm
Eitem
3: Cynnig i ethol Aelod i’r Pwyllgor Archwilio
NNDM3655 William Graham (Dwyrain De Cymru)Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3:Yn ethol David Melding (Ceidwadwyr) fel Aelod o'r Pwyllgor Archwilio
yn lle Jonathan Morgan (Ceidwadwyr).Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35....................................................
2.21pm
Eitem
4: Cwestiynau i'r Comisiwn
Gofynnwyd pob un o’r 6 chwestiwn a throsglwyddwyd cwestiynau 3 a 6 i’w hateb yn ysgrifenedig.
...................................................
2.38pm
Eitem
5: Cynnig i gymeradwyo Cynllun Iaith Gymraeg Cynulliad Cenedlaethol Cymru (10 munud)
NDM3650
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd), Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth), Peter Black (Gorllewin De Cymru), William Graham (Dwyrain De Cymru) ac Elin Jones (Ceredigion)Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:Yn cymeradwyo Cynllun Iaith Gymraeg Cynulliad Cenedlaethol Cymru a e-bostiwyd at yr Aelodau ar 4 Gorffennaf 2007.Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35....................................................
Eitem
6: Dadl Plaid Cymru (90 munud) - TYNNWYD YN ÔL
...................................................
2.51pm
Eitem
7: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
NDM3652 Kirsty Williams (Brycheiniog
a Sir Faesyfed)Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:Yn
galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ddeddfu i wella hawliau gofalwyr drwy:a) Rhoi dyletswydd ar y GIG i ystyried lles gofalwyr a rhoi’r hawl
iddynt dderbyn gwybodaeth; b) Rhoi’r hawl i ofalwyr gael gafael ar ofal seibiant.Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:Gwelliant - Jane Hutt (Bro Morgannwg)Dileu
popeth ar ôl 'hawliau gofalwyr'.Bu i o leiaf dri Aelod ofyn i’r gloch gael ei chanu yn unol â Rheol Sefydlog 7.37.3.46pm
Gohiriwyd
y cyfarfod am 5 munud.
3.51pm
Cynhaliwyd pleidlais ar y gwellaint a’r cynnig.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y gwelliant:
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
---|---|---|---|
33 | 0 | 19 | 52 |
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
...................................................
3.52pm
Eitem
8: Dadl fer
NDM3649 Alun Ffred Jones (Arfon):
Galeri
- Stori o lwyddiant ...................................................