Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (5)
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Mehefin 2007
Amser: 12.30pm
Yn unol â Rheol Sefydlog 36.8 (viii) penderfynodd y Cynulliad ar 6 Mehefin i ymdrin â’r busnes o dan eitemau 1 a 2.
12.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig
Gofynnwyd y 15 cwestiwn ac eithrio cwestiwn 3 a dynnwyd yn ôl. Cafodd cwestiynau 2, 4 a 12 a chwestiynau 7 a 11 eu grwpio.
...................................................
1.30pm
Eitem 2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg
Gofynnwyd y 15 cwestiwn ac eithrio cwestiynau 10 ac 11.
...................................................
Yn unol â Rheol Sefydlog 36.8 (viii) cytunodd y Cynulliad, drwy gyfrwng penderfyniad, i ymdrin â’r busnes o dan eitem 3.
2.25pm
Eitem 3: Dadl Plaid Cymru
NNDM3615 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gymryd camau i fynd i’r afael â morâl isel ymhlith staff yn y gwasanaeth iechyd gwladol, ac i ddechrau gwneud hynny drwy:
a) cyflwyno’r codiad cyflog llawn ar gyfer nyrsys;
b) datblygu proses ymgeisio briodol ar gyfer meddygon iau;
c) datblygu strategaeth i leihau camdriniaeth yn erbyn staff y gwasanaeth iechyd gwladol.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
NDM3615 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt c:
"trwy fynnu bod gan bob Bwrdd Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth weithdrefnau cadarn ar waith i ddelio â’r rheini sy’n dychryn staff ac i gefnogi staff ar ôl digwyddiadau o’r fath.”
Cynhaliwyd pleidlais ar y gwelliant:
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
---|---|---|---|
54 | 0 | 0 | 54 |
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
---|---|---|---|
57 | 0 | 0 | 57 |
...................................................