13/11/2007 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (28)

Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Tachwedd 2007

Amser: 2.00pm

Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru


Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf ac eithrio cwestiwn 6 a dynnwyd yn ôl.

.........................................................

3.02pm
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

...................................................

3.23pm
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:  Gwasanaethau Deintyddol

...................................................

Eitem 4: Cynnig i gymeradwyo the Environmental Permitting (England and Wales)  Regulations 2007 – Ni chyflwynwyd cynnig

...................................................

3.55pm
Eitem 5: Dadl ar y Trydydd Dimensiwn - Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Cynllun y Sector Gwirfoddol ac Adroddiad Blynyddol ar Gynllun y Sector Gwirfoddol 2006/07
NDM3710 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r Trydydd Dimensiwn - Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Cynllun y Sector Gwirfoddol;

2. Yn cydnabod bwriad y Gweinidog i weithio gyda’r Sector Gwirfoddol wrth gyflawni’r Cynllun Gweithredu Strategol;

3. Yn nodi’r camau a gymerwyd i gyflawni Cynllun y Sector Gwirfoddol yn y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2007 ac yn cytuno i gyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol.

Cafodd copïau o "Trydydd Dimensiwn - Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Cynllun y Sector Gwirfoddol” a'r "Adroddiad Blynyddol” eu hanfon drwy e-bost at Aelodau’r Cynulliad ar 6 Tachwedd 2007.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:


William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

"Yn nodi â phryder y bydd Cynigion Cyllideb Ddrafft 2008-09, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2007, yn cynyddu’r galw am nifer o wasanaethau’r sector gwirfoddol o ganlyniad i’r setliad cyllideb gwael ar gyfer awdurdodau lleol."

Cynhaliwyd pleidlais ar y gwelliant:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

29

42

Gwrthodwyd gwelliant 1

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig

NDM3710 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r Trydydd Dimensiwn - Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Cynllun y Sector Gwirfoddol;

2. Yn cydnabod bwriad y Gweinidog i weithio gyda’r Sector Gwirfoddol wrth gyflawni’r Cynllun Gweithredu Strategol;

3. Yn nodi’r camau a gymerwyd i gyflawni Cynllun y Sector Gwirfoddol yn y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2007 ac yn cytuno i gyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol.


Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

Daeth y cyfarfod i ben am 4.34pm.

...................................................

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 12.30pm ddydd Mercher, 14 Tachwedd 2007

Ysgrifenyddiaeth y Siambr