Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (146)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2009
Amser: 13.30
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiynau 7 ac 8 yn ôl.
………………………
14.22
Eitem
2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
14.40
Pwynt o drefn
Cododd Angela Burns bwynt o drefn ynghylch y papurau a ddarperir i bwyllgorau’r Cynulliad gan Lywodraeth Cymru at ddibenion ymchwiliadau craffu.
………………………
14.42
Eitem
3: Datganiad gan Brif Weinidog Cymru: Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru 2009/10
………………………
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: ymgynghoriad Comisiwn Iechyd Cymru - i’w gyhoeddu fel datganiad ysgrifenedig
………………………
15.42
Eitem
5: Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Dŵr Daear (Cymru a Lloegr) 2009
NDM4264 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
Yn cymeradwyo bod y gorchymyn drafft, Rheoliadau Dŵr Daear (Cymru a Lloegr) 2009, yn cael ei wneud yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2009 a’r Memorandwm Esboniadol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
………………………
15.43
Eitem
6: Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru)
NDM4265 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:
Yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru).
Gosodwyd y Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 27 Ebrill 2009;
Gosodwyd
adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 7 Gorffennaf 2009.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
NDM4266 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii) (b) ac (c), sy’n codi o ganlyniad I’r Mesur.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
………………………
16.38
Pwynt
o drefn
Cododd Carwyn Jones bwynt o drefn ynghylch ymateb ysgrifenedig gan Weinidog i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
………………………
16.40
Eitem 7: Datganiad Deddfwriaethol gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol: Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Llywodraeth Leol) 2009
………………………
Daeth y cyfarfod i ben am 17.12