16/07/2008 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (81)

Dyddiad: Dydd Mercher, 16 Gorffennaf 2008
Amser: 12.30pm

Ethol Dirprwy Lywydd Dros Dro
Etholwyd William Graham yn Ddirprwy Lywydd Dros Dro ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw.

………………………………

Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4 a 5 eu grwpio.  

………………………………

Eitem 2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau     
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau  5 a 12 eu hateb gan i Dirprwy Weinidog dros Sgiliau. Cafodd cwestiwn 6 ei dynnu’n ôl.

………………………………

1.54pm
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ad-drefnu Gwasanaethau Iechyd yng Nghymru  

………………………………

2.30pm
Eitem 4: Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn y Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru (Diwygiadau Amrywiol) 2008

NDM3991 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2008 mewn perthynas â’r gorchymyn drafft, Gorchymyn y Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru (Diwygiadau Amrywiol) 2008; a

2. Yn cymeradwyo bod y gorchymyn drafft, Gorchymyn y Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru (Diwygiadau Amrywiol) 2008, yn cael ei wneud yn unol ag:

a) y drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2008; a
b) y Memorandwm Esboniadol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2008.


Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

2.31pm
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog

NNDM3996 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y cyfarfod llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynigion o dan eitem 5, 6 a 7 gael eu hystyried yn y cyfarfod llawn ddydd Mercher 16 Gorffennaf 2008.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

2.31pm
Eitem 5: Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 25.19 a 25.20

NNDM3997 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 35.2:


1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes a anfonwyd drwy e-bost at Aelodau ac a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf; a


2. Yn cymeradwyo’r diwygiadau i Reolau Sefydlog a nodir yn adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35

………………………………


2.32pm
Eitem 6: Cynnig i gytuno ar ganllawiau i’r Aelodau ynglŷn â chynnal trafodion y Cynulliad yn y modd priodol mewn perthynas â Phwyllgorau Gweithdrefn Cynulliad Arbennig


NNDM3998 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod y Cynulliad yn cytuno ar y canllawiau i Aelodau’r Cynulliad ar y modd priodol i gynnal trafodion Pwyllgorau Gweithdrefn Cynulliad Arbennig, ac a roddir o dan Reol Sefydlog 2.17 ac a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2008.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

2.32pm
Eitem 7: Cynnig i ethol Aelodau i Bwyllgorau

NNDM4000 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Huw Lewis (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Lynne Neagle (Llafur).

NNDM3999 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Joyce Watson (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal yn lle Huw Lewis (Llafur).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

2.33pm
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog

NNDM4001 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynigion o dan Eitem 8 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 16 Gorffennaf 2008.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

2.33pm
Eitem 8: Cynigion i sefydlu ac ethol Pwyllgor Gweithdrefn Cynulliad Arbennig

NNDM4002 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 21 a 25.19, yn sefydlu pwyllgor i ystyried deisebau ynghylch Gorchymyn Gweithdrefn Cynulliad Arbennig drafft - "Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (A40) (Gwelliant Penblewin i Barc Slebets) 200-”

Cylch gwaith y pwyllgor fydd ystyried deisebau ynghylch y Gorchymyn drafft a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad yn unol â Rheol Sefydlog 25.21.


Daw’r Pwyllgor i ben ar ôl i’r adroddiad gael ei gyflwyno.

NNDM4003 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)


Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Christine Chapman, Irene James, Mohammad Asghar, Nick Ramsay a Mike German fel Aelodau o’r pwyllgor i ystyried deisebau ynghylch Gorchymyn Gweithdrefn Cynulliad Arbennig drafft - "Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (A40) (Gwelliant Penblewin i Barc Slebets) 200-”.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

2.34pm
Eitem 9: Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant ar Ariannu Sefydliadau’r Sector Gwirfoddol yng Nghymru


NDM3992 Janice Gregory (Ogwr)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant ar Ariannu Cyrff y Sector Gwirfoddol yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2008.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

3.10pm
Eitem 10: Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Darlledu ar ddyfodol Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru


NDM3995 Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Darlledu ar Ddyfodol Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2008.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

3.58pm
Eitem 11: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM3993 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn canmol gwaith ardderchog ffermwyr Cymru yn cynhyrchu bwyd i’r safonau uchaf o ran ansawdd a lles;

2. Yn gresynu y bydd newidiadau diweddar i ffioedd y Gwasanaeth Hylendid Cig yn effeithio’n andwyol ar Ladd-dai llai Cymru ac yn tanseilio ymdrechion i ddatblygu cynnyrch â brand lleol;

3. Yn gresynu ymhellach wrth fethiant Llywodraeth Cynulliad Cymru i amddiffyn ffermwyr defaid Cymru rhag cyflwyno ID Electronig;

4. Yn cydnabod er gwaethaf y twf yn y galw rhyngwladol am fwyd, bod polisïau, biwrocratiaeth a rheoliadau Llywodraeth Cynulliad Cymru’n lleihau cynhyrchiant ffermydd;

5. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni cydbwysedd sy’n wirioneddol gynaliadwy rhwng cynlluniau i wella’r amgylchedd a chynhyrchu bwyd yn ei pholisïau; a

6. Yn gofidio wrth y diffyg cymorth ariannol ar gyfer y Sioe Frenhinol ac ystyried y refeniw twristiaeth mawr y mae’n ei gynhyrchu i Gymru.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)


Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i annog rhagor o gydweithrediad ymysg ffermwyr Cymru, i gael cymaint o enillion â phosibl am eu cynnyrch a thorri tra-arglwyddiaeth archfarchnadoedd mawr ar y sector adwerthu bwyd yng Nghymru.”

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

Gohiriwyd y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

33

49

Gwrthodwyd y cynnig.

………………………………

4.50pm

Cyfnod pleidleisio

………………………………

4.50pm
Eitem 12: Dadl fer

NDM3994 Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd):

Sialens gwasanaethau iechyd trawsffiniol.


………………………………

Daeth y cyfarfod i ben am ?pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 2.00pm ddydd Mawrth, 23 Medi 2008

Ysgrifenyddiaeth y Siambr