Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (22)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 16 Hydref 2007
Amser: 2.00pm
2.00pm
Eitem 1: Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog
NDM 3693 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y cyfarfod llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynigion o dan eitem 2 a 3 gael eu hystyried yn y cyfarfod llawn ddydd Mawrth 16 Hydref 2007.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
...................................................
2.00pm
Eitem 2: Cynnig i sefydlu Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
NDM3694 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 21, yn sefydlu Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc. Bydd y pwyllgor yn bodoli drwy gydol y Cynulliad hwn.
Bydd cylch gorchwyl y pwyllgor fel a ganlyn:
Ystyried a darparu adroddiadau ar faterion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Yn benodol, caiff y pwyllgor, o fewn ei gylch gorchwyl, archwilio gwariant, gweinyddiaeth a pholisi Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r cyrff cyhoeddus sy’n gysylltiedig â hi, ac ystyried adroddiadau Comisiynydd Plant Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
...................................................
2.01pm
Eitem 3: Cynnig i ethol Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
NDM3695 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 10.3, yn ethol Lynne Neagle (Llafur), Christine Chapman (Llafur), Helen Mary Jones (Plaid Cymru), Angela Burns (Ceidwadwyr) ac Eleanor Burnham (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelodau o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
...................................................
2.02pm
Eitem 4: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf.
...................................................
2.53pm
Eitem 5: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
.…………………………
3.17pm
Pwynt o drefn: Cododd Darren Millar y pwynt o drefn ynghylch hysbysu Aelodau o ymweliadau’r Gweinidogion â’u hetholaethau neu eu rhanbarthau."
...................................................
3.20pm
Eitem 6: Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau: Darpariaethau Cymru yn y Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant - GOHIRIWYD
...................................................
3.20pm
Eitem 7: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ailgyflunio’r GIG ym Mhowys a Gogledd Cymru
4.26pm
Eitem 8: Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog
NDM3692 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y cyfarfod llawn yr wythnos ganlynol er mwyn i`r cynnig ar Gynllun Gofodol Cymru (NDM 3676), a gyflwynwyd ar 25 Medi 2007, gael ei ystyried yn y cyfarfod llawn ddydd Mawrth 16 Hydref 2007.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
...................................................
4.27pm
Eitem 9: Dadl ar Gynllun Gofodol Cymru (30 munud)
NDM3676 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r cynnydd o ran gweithredu Cynllun Gofodol Cymru ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei fabwysiadu ym mis Tachwedd 2004.
2. Yn cefnogi’r cynnig i gyhoeddi diweddariad i Gynllun Gofodol Cymru yn 2008.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd cynnig:
"Yn galw ar Brif Weinidog Cymru i roi’r cyfrifoldeb dros Gynllun Gofodol Cymru i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai.”
Cynhaliwyd pleidlais ar y gwelliant:
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
13 | 0 | 32 | 45 |
Gwrthodwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM3676 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r cynnydd o ran gweithredu Cynllun Gofodol Cymru ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei fabwysiadu ym mis Tachwedd 2004.
2. Yn cefnogi’r cynnig i gyhoeddi diweddariad i Gynllun Gofodol Cymru yn 2008.
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
45 | 0 | 0 | 45 |
Derbyniwyd y cynnig.
...................................................
5.08pm
Eitem 10: Dadl i nodi’r Blaenoriaethau o ran Datblygu Cynaliadwy
NDM 3686 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod gan Weinidogion Cymru ddyletswydd statudol i hyrwyddo datblygu cynaliadwy wrth iddynt arfer eu swyddogaethau a bod gwneud hyn yn un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru.
2. Yn nodi'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithredu'r ddyletswydd hon a'i bwriad i:
a) Comisiynu adolygiad annibynnol er mwyn gweld i ba raddau y mae'r weledigaeth yn y Cynllun Datblygu Cynaliadwy wedi ei gwireddu (yn unol ag adran 79(7)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006); a
b) Paratoi Adroddiad Blynyddol am Ddatblygu Cynaliadwy ar gyfer 2006/07 i'w gyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol erbyn diwedd 2007.
3. Yn nodi y bydd cyfle, ar ôl i'r adolygiad ffurfiol gael ei gwblhau, i adolygu neu i ail-wneud y cynllun datblygu cynaliadwy ac i ddatblygu camau i'w roi ar waith.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn mynegi pryder difrifol am lefel yr adnoddau ariannol sydd ar gael i wireddu’r weledigaeth o ddyfodol cynaliadwy ac yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ddatblygu pecyn arfarnu carbon i helpu i wneud gwario’n effeithiol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y gwelliant:
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
15 | 0 | 36 | 51 |
Gwrthodwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM 3686 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod gan Weinidogion Cymru ddyletswydd statudol i hyrwyddo datblygu cynaliadwy wrth iddynt arfer eu swyddogaethau a bod gwneud hyn yn un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru.
2. Yn nodi'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithredu'r ddyletswydd hon a'i bwriad i:
a) Comisiynu adolygiad annibynnol er mwyn gweld i ba raddau y mae'r weledigaeth yn y Cynllun Datblygu Cynaliadwy wedi ei gwireddu (yn unol ag adran 79(7)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006); a
b) Paratoi Adroddiad Blynyddol am Ddatblygu Cynaliadwy ar gyfer 2006/07 i'w gyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol erbyn diwedd 2007.
3. Yn nodi y bydd cyfle, ar ôl i'r adolygiad ffurfiol gael ei gwblhau, i adolygu neu i ail-wneud y cynllun datblygu cynaliadwy ac i ddatblygu camau i'w roi ar waith.
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
51 | 0 | 0 | 51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Daeth y cyfarfod i ben am 5.54pm
...................................................
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 12.30pm dydd Mercher, 17 Hydref 2007
Ysgrifenyddiaeth y Siambr