19/06/2007 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Y Trydydd Cynulliad – Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (6)

Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2007

Amser: 2.00pm

Cynnig i ohirio'r Rheolau Sefydlog
NDM3621 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8: Yn atal Rheol Sefydlog 7.18(i) a'r rhan hwnnw o Reol Sefydlog 6.10 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i'r cynnig i ethol aelodau i'r pwyllgor is-ddeddfwriaeth (NNDM3620) gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 19 Mehefin 2007

.

Derbyniwyd yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

...................................................


Eitem 1: Cynnig i ethol y Pwyllgor Is-Ddeddfwriaeth
NNDM3620 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Jeff Cuthbert (Llafur), Alun Davies (Llafur), Irene James (Llafur), Sandy Mewies (Llafur), Janet Ryder (Plaid Cymru), Dai Lloyd (Plaid Cymru), Andrew RT Davies (Ceidwadwyr), Paul Davies (Ceidwadwyr) ac Eleanor Burnham (Democratiaid Rhyddfrydol) fel aelodau o’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth.

Derbyniwyd yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

...................................................

2.01pm
Eitem 2: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru

Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf.

...................................................

2.48pm
Eitem 3: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

...................................................

3.19pm

Eitem 4: Datganiad am y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Newid Gwyrdd

...................................................

Daeth y cyfarfod i ben am 4.27pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 12.30pm ddydd Mercher, 20 Mehefin 2007

Ysgrifenyddiaeth y Siambr