20/06/2007 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (7)

Dyddiad: Dydd Mercher, 20 Mehefin 2007
Amser: 12.30pm

12.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gofynnwyd pob un o’r 10 cwestiwn cyntaf ac eithrio cwestiwn 9.

...................................................

1.04pm
Eitem 2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 5 gan y Dirprwy Weinidog gyda chyfrifoldeb arbennig am Adfywio. 

...................................................

1.34pm
Cwstiwn Brys - Eleanor Burnham (Gogledd Cymru):
A wnaiff y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad ar golli 260 o swyddi yn Graphoprint, argraffydd cylchgronau a chatalogau ar ystad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy?

...................................................

1.42pm
Eitem 3 - Dadl Plaid Cymru

NDM3616 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:1. Yn cydnabod bod angen annog busnesau ledled Cymru i fuddsoddi er mwyn ehangu, creu rhagor o swyddi ac adeiladu economi gref; a2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella ac ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau ar y cyfle cyntaf er mwyn symud ymlaen i gyflawni’r nod hwn.Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:Gwelliant - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:"Yn cydnabod y cyfraniad y gall gostyngiad a dargedir yn yr ardrethi busnes ei wneud i annog busnesau i wella’u cyfraniadau amgylcheddol a chymdeithasol, ac yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i geisio pwerau i alluogi cyflwyno gostyngiadau wedi’u targedu o’r fath.”Cynhaliwyd pleidlais ar y gwelliant:
Pleidleisiau a Thrafodion
O blaid Ymatal Yn erbyn Cyfanswm
 54  0  0  54
Derbyniwyd y gwelliant.Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:1. Yn cydnabod bod angen annog busnesau ledled Cymru i fuddsoddi er mwyn ehangu, creu rhagor o swyddi ac adeiladu economi gref; a2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella ac ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau ar y cyfle cyntaf er mwyn symud ymlaen i gyflawni’r nod hwn.3. Yn cydnabod y cyfraniad y gall gostyngiad a dargedir yn yr ardrethi busnes ei wneud i annog busnesau i wella’u cyfraniadau amgylcheddol a chymdeithasol, ac yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i geisio pwerau i alluogi cyflwyno gostyngiadau wedi’u targedu o’r fath.
Pleidleisiau a Thrafodion
O blaid Ymatal Yn erbyn Cyfanswm
 53  0  0  53
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

...................................................

2.36pm
Eitem 4 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

2.50pm
Gohiriwyd y cyfarfod
2.59pm
Ailddechreuodd y cyfarfod

Eitem 4 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Parhad

NDM3617 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:1. Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i:a) Llunio rhaglen weithredu er mwyn gostwng gollyngiadau cyfwerth-carbon blynyddol 3 y cant y flwyddyn erbyn 2011 a chreu corff annibynnol i fonitro cynnydd y Llywodraeth;b) Cyhoeddi a gweithredu Strategaeth Ynni Adnewyddadwy gyda’r nod o gyflawni targed ynni adnewyddadwy o 20 y cant erbyn 2015, gyda mwy o bwys ar amrywiaeth y technolegau sydd ar gael;c) Adolygu’r canllaw cynllunio TAN8 i sicrhau ei fod yn hyrwyddo’r amrediad llawn o ffynonellau ynni adnewyddadwy.Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)Ychwanegu ar ddiwedd pwynt c):"ac yn creu dull ar sail meini prawf ar gyfer ystyried ceisiadau cynllunio ynni adnewyddadwy.”Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.Gwelliant 2 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:"Cydnabod yr angen i ddiwylliant a’r amgylchedd busnes fodoli yng Nghymru i hybu a hwyluso buddsoddiad mewn technolegau adnewyddadwy.”Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:"Ceisio cael penderfyniadau cynllunio ar brosiectau ynni dros 50 MwH wedi’u datganoli.”Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:"Datblygu cymhellion ar gyfer ynni adnewyddadwy morol oddi ar arfordir Gorllewin Cymru.”Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:"Lansio cynllun arbed ynni a fydd yn darparu grantiau microgynhyrchu ac effeithlonrwydd ynni ac yn hybu arbed ynni.”Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:1. Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i:a) Llunio rhaglen weithredu er mwyn gostwng gollyngiadau cyfwerth-carbon blynyddol 3 y cant y flwyddyn erbyn 2011 a chreu corff annibynnol i fonitro cynnydd y Llywodraeth;b) Cyhoeddi a gweithredu Strategaeth Ynni Adnewyddadwy gyda’r nod o gyflawni targed ynni adnewyddadwy o 20 y cant erbyn 2015, gyda mwy o bwys ar amrywiaeth y technolegau sydd ar gael;c) Adolygu’r canllaw cynllunio TAN8 i sicrhau ei fod yn hyrwyddo’r amrediad llawn o ffynonellau ynni adnewyddadwy ac yn creu dull ar sail meini prawf ar gyfer ystyried ceisiadau cynllunio ynni adnewyddadwy.2. Cydnabod yr angen i ddiwylliant a’r amgylchedd busnes fodoli yng Nghymru i hybu a hwyluso buddsoddiad mewn technolegau adnewyddadwy.3. Ceisio cael penderfyniadau cynllunio ar brosiectau ynni dros 50 MwH wedi’u datganoli.4. Datblygu cymhellion ar gyfer ynni adnewyddadwy morol oddi ar arfordir Gorllewin Cymru.5. Lansio cynllun arbed ynni a fydd yn darparu grantiau microgynhyrchu ac effeithlonrwydd ynni ac yn hybu arbed ynni.
Pleidleisiau a Thrafodion
O blaid Ymatal Yn erbyn Cyfanswm
 28  0  24  52
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

...................................................

3.40pm
Eitem 5 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru  

NDM3618 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sefydlu comisiwn annibynnol i ymchwilio i faterion sy’n ymwneud â phwerau ariannol a chyllido Llywodraeth Cynulliad Cymru.Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn ond ni symudwyd ef:Gwelliant - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)Dileu "ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sefydlu” ac yn lle hynny rhoi "am sefydlu”.Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Pleidleisiau a Thrafodion
O blaid Ymatal Yn erbyn Cyfanswm
 51  0  0  51
Derbyniwyd y cynnig.

...................................................

4.33pm
Eitem 6 - Dadl Fer

NDM3619 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yr angen am Ysbyty Llwynhelyg

...................................................

Daeth y cyfarfod i ben am 4.55pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 2.00pm ddydd Mawrth, 26 Mehefin 2007

Ysgrifenyddiaeth y Siambr