22/01/2008 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (40)


Dyddiad: Dydd Mawrth, 22 Ionawr 2008

Amser: 2.00pm


Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.

………………………

3.00pm
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

………………………


Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig: Newydd-ddyfodiaid - Gohiriwyd tan 23 Ionawr 2008

………………………

3.19pm
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: Astudiaeth Ddichonoldeb ar gyfer Morglawdd ar draws Afon Hafren

………………………

3.47pm
Eitem 5: Dadl ar y gyllideb derfynol (60 munud)

NDM3844 Andrew Davies (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.17 (i), yn cymeradwyo'r Gyllideb Derfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2008-2009, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 15 Ionawr 2008.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol a gynhwysir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 27.19, mae'r Gyllideb Derfynol yn cynnwys y wybodaeth a ganlyn:

i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

ii) yr adnoddau y cytunir arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrennir ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys â'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

iv) cysoniad rhwng y symiau yr amcangyfrifir y telir amdanynt i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn ar gael i’r Aelodau:

  • copïau o dablau manwl sy’n dangos y dyraniadau i linell wariant y gyllideb a’r prif grwp gwariant

  • dyraniadau dangosol ar gyfer 2009-10 a 2010-11 mewn fformat sy’n gyson â Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

17

52

Derbyniwyd y cynnig.

Daeth y cyfarfod i ben am 5.06pm.

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 12.30pm ddydd Mercher, 23 Ionawr 2008

Ysgrifenyddiaeth y Siambr