23/03/2010 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (188)

Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Mawrth 2010
Amser: 13.30

Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 6 a 9 eu grwpio.

………………………

14.23
Eitem 2: Cwestiynau i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb  - symudwyd o 24 Mawrth 2010

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf.

………………………

15.04
Eitem 3: Cwestiynau i'r Gweinidog dros Dreftadaeth  - symudwyd o 24 Mawrth 2010

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf.

………………………

15.50
Eitem 4: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

………………………

16.30
Eitem 5: Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Blant: Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Plant  

………………………

17.15
Eitem 6: Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Cymdeithasol yn Abertawe

………………………

18.02
Eitem 7: Datganiad deddfwriaethol gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru)

………………………

18.30
Eitem 8: Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Gweithgarwch Rheoledig) 2010

NDM4446 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Gweithgarwch Rheoledig) (Cymru) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2010.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

18.34
Eitem 9: Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010

NDM4444 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2010.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

18.34
Eitem 10: Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Coleri Electronig) (Cymru) 2010

NDM4445 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Coleri Electronig) (Cymru) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2010.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

18.47
Eitem 11: Cynnig i gymeradwyo Cod Ymarfer Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 16 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

NDM4448 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 16(4) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004:

Yn cymeradwyo fersiwn drafft Cod Ymarfer Archwilio diwygiedig Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Cafodd copi o fersiwn drafft Cod Ymarfer Archwilio diwygiedig Archwilydd Cyffredinol Cymru ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno a'i e-bostio at Aelodau'r Cynulliad ar 16 Mawrth 2010.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

18.49
Eitem 12: Dadl ar Adroddiad Blynyddol ESTYN

NDM4447 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu adroddiad blynyddol Prif Arolygydd ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2008-09 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno a'i e-bostio at Aelodau’r Cynulliad ar 16 Mawrth 2010.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 -
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi sylw ar frys i’r sialensiau a nodwyd yn yr adroddiad blynyddol.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

32

50

Gwrthodwyd gwelliant 1

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4447 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu adroddiad blynyddol  Prif Arolygydd ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2008-09 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno a'i e-bostio at Aelodau’r Cynulliad ar 16 Mawrth 2010.

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd y cynnig.

………………………

19.28
Cyfnod pleidleisio

Daeth y cyfarfod i ben am 19.29

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30 ddydd Mercher 24 Mawrth 2010.

Ysgrifenyddiaeth y Siambr